Bydd rhaglen Dewi Llwyd ar foreau Sul yn dod i ben yn y flwyddyn newydd – a hynny ar ôl 14 mlynedd.

Fe wnaeth y darlledwr profiadol y cyhoeddiad ar ei raglen ei hun ar BBC Radio Cymru y bore ’ma.

Mae’r newyddiadurwr 66 oed hefyd yn adnabyddus am gyflwyno y Post Prynhawn ac yn gyn-gyflwynydd y rhaglenni Newyddion a Pawb A’i Farn ar S4C.

Mae ei raglen radio ar foreau Sul yn cynnwys “adolygiadau o’r papurau Sul, gwestai pen-blwydd a cherddoriaeth hamddenol.”

Daeth y cyhoeddiad heddiw wedi iddo drydaru ddoe y byddai ganddo “fymryn o newyddion personol hefyd!” ar y rhaglen.

 

Wedi’r bwletin newyddion gael ei ddarlledu hanner ffordd drwy’r rhaglen foreol, dywedodd y darlledwr o Fangor: “Fel mae’n digwydd, mae gen i un pwt bach o newyddion personol heddiw; ar ôl pedair blynedd ar ddeg o gael y fraint aruthrol o fod gyda chi ar foreau Sul fel hyn, fe ddaeth hi’n bryd imi roi’r cloc larwm o’r neilltu a chael y penwythnosau yn rhydd.

Meddai: “‘Dwi ’di cael cymaint o fwynhad a chwmni pobol arbennig iawn ar hyd y blynyddoedd – yn ogystal â chynhyrchydd eithriadol – ac yn naturiol dwi’n hynod ddiolchgar i chi’r gwrandawyr.

Cewri

Ychwanegodd: “Dwi wedi penderfynu rhoi’r gorau i’r rhaglen ddiwedd y flwyddyn – ond mae’n dda gen i ddweud y byddai’n parhau i gyflwyno Dros Ginio a Hawl i Holi yma ar BBC Radio Cymru.”

D’oes dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd ynglyn â phwy neu be fydd yn llenwi’r slot yma ar foreau Sul nawr yn y flwyddyn newydd yn lle Dewi Llwyd.

Dywedodd pennaeth gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Dafydd Meredydd: “Mae cynulleidfa fore Sul Radio Cymru wedi bod yn lwcus i gael cwmni un o gewri darlledu ein gwlad am bedair mlynedd ar ddeg.

“Dipyn o shifft – diolch Dewi!

Ychwanegodd: “Dwi mor falch y byddwn yn parhau i deimlo ei bresenoldeb yn gryf ar donfeddi yr orsaf wrth iddo gyflwyno Dros Ginio a Hawl i Holi.”

 

Cafodd cyhoeddiad Dewi Llwyd dipyn o ymateb y bore yma.

Dywedodd un o gyfranwyr cyson y rhaglen, y cerddor Geraint Cynan: “Pe bai Carlsberg yn cynhyrchu rhaglenni . . . bydde ddim patsh ar y rhaglen uchod.”

Ychwanegodd Geraint Cynan mai Dewi a’i gynhyrchydd Marian Ifans “yw Bale a Ramsey darlledu . . .”