Mae hi’n “ofnadwy o bwysig” bod dysgwyr yn cael eu cynrychioli yn y celfyddydau yng Nghymru, a bod dysgu Cymraeg yn cael ei ddathlu, meddai awdur cyfres newydd.

Yn dilyn llwyddiant y ddrama ddigidol Enfys gan Melangell Dolma, mae partneriaeth rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Cymru Fyw yn golygu bod Enfys wedi cael ei datblygu i fod yn gyfres o bedair drama ddigidol fer.

Bydd y penodau’n cael eu darlledu’n nosweithiol yn ystod Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg BBC Radio Cymru, rhwng 11 a 15 Hydref.

Mae’r ddrama’n dathlu dysgu Cymraeg, ac yn ôl yr awdur mae hi’n ddrama sy’n rhoi cynrychiolaeth i ddysgwyr – rhywbeth sy’n “eithaf prin” yn y celfyddydau yng Nghymru hyd yn hyn.

“Dathlu ac annog”

Roedd hi’n “hyfryd, a cwbl annisgwyl” cael dychwelyd at Enfys, meddai Melangell Dolma wrth golwg360.

“Roeddwn i wedi ysgrifennu’r bennod gyntaf yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn 2020, ac mi aeth allan a chafodd dderbyniad da.

“Roedd hynny’n hyfryd, a doeddwn i heb ystyried o gwbl ailymweld efo’r cymeriad na’r stori ond wedyn ddaeth Arwel Gruffydd o’r Theatr Gen[edlaethol] ata i yn cynnig y syniad o ‘sgwennu mwy o benodau, roedd o wedi bod mewn cysylltiad â’r BBC a’r Ganolfan Dysgu Genedlaethol ac roedden nhw gyd yn awyddus i ailymweld a bod yna alw am waith sy’n cynrychioli ac yn rhoi llais i ddysgwyr.

“Roeddwn i wrth fy modd, fe wnes i dderbyn yn syth heb wybod o gwbl be roeddwn i am wneud. Roedd o’n braf iawn.”

Richard Nichols o Borthcawl, sydd wedi ymddangos ar gyfresi fel Doctor Who a Pobol y Cwm, sy’n actio cymeriad Nick yn y ddrama, cymeriad aeth ati i ddysgu Cymraeg yn y bennod gyntaf.

Richard Nichols

“Dydi o ddim wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer dysgwyr, mae’r cymeriad yn ddysgwr ac yn y bennod gyntaf mae o’n recordio fideo gwaith cartref ar gyfer ei ddosbarth Cymraeg,” eglurodd Melangell Dolma.

“Wedyn, dydi o ddim wedi’i anelu’n benodol at ddysgwyr, fwy na neb arall, mae o’n addas i unrhyw un, ond bod o’n rhoi’r gynrychiolaeth yna o gymeriad sy’n ddysgwr sydd ella’n rhywbeth eithaf prif, dydyn ni ddim yn ei weld yn aml yn y celfyddydau hyd yn yma.”

Dywedodd Melangell Dolma ei bod hi’n “ofnadwy o bwysig” ein bod ni’n rhoi cynrychiolaeth i ddysgwyr yn y celfyddydau, ac yn dathlu dysgu Cymraeg.

“Dw i’n meddwl bod yna gymaint o bobol sydd wrthi rŵan yn dysgu, ac mae hynny i’w ddathlu a’i annog,” meddai.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod nhw wedyn yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cynrychioli yn y cyfryngau ac yn y gwaith maen nhw’n ei wylio.

“Nid jyst bod ni’n gwneud gwaith sy’n addas ar gyfer dysgwyr, neu sydd wedi’i anelu at ddysgwyr, ond bod eu lleisiau nhw’n cael ei glywed o fewn y gwaith yna.

“Dw i’n meddwl bod hynny’n hollbwysig.”

“Hygyrch a chroesawgar”

Mae gweld actorion eraill yn ymuno â Richard Nichols ar gyfer y penodau nesaf, a’u gweld nhw’n darllen y gwaith a dod â’r ddrama’n fyw “yn brofiad arbennig iawn” i Melangell Dolma fel awdur, meddai.

Catrin Fychan sy’n chwarae rhan Enfys, ac mae Rhiannon Oliver, sydd wedi gweithio gyda Shakespeare Globe, y National Theartre a’r Theatre Royal yng Nghaerfaddon, yn chwarae rhan un o’r dysgwyr yn nosbarth Enfys.

Mae’r Theatr Genedlaethol wedi bod yn cefnogi artistiaid a gweithwyr theatr llawrydd i fagu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith drwy gynllun Cymraeg Gwaith, dan ofal Nant Gwrtheyrn a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cafodd Rhiannon Oliver, sydd wedi ymddangos ar raglenni fel Torchwood, y cyfle i ddefnyddio ei Chymraeg trwy’r cynllun.

“Roedd y cyfle iddi hi gael actio wedyn gyda’r cwmni a’r BBC yn brofiad gwych iddi hi, dw i’n meddwl, o ran bod yna ddatblygiad i’r [cynllun],” meddai Melangell Dolma.

“Mae’n teimlo mor bwysig bod y profiadau yna ar gael, a’u bod nhw’n teimlo yn hygyrch ac yn groesawgar, ac ein bod ni’n croesawu dysgwyr mewn i’r gweithle – ein bod ni’n gwneud cymaint ag y gallwn ni i wneud iddyn nhw deimlo’n hyderus a chyfforddus yn defnyddio’r Gymraeg am y tro cyntaf yn y gweithle.”

“Mor lwcus”

Dywedodd Rhiannon Oliver ei bod hi mor “ddiolchgar” am y siawns i fod yn rhan o Enfys.

“Dw i wedi gweithio’n galed iawn i ddysgu Cymraeg ac mae’n deimlad anhygoel i gael y cyfle i ddefnyddio fy Nghymraeg mewn prosiect fel hwn.

Rhiannon Oliver

“Dysgais i gymaint yn ystod y broses, yn enwedig oherwydd bod y tîm cyfan yn gefnogol iawn ac yn hapus i helpu pan nad o’n i’n gwybod gair neu ymadrodd.

Er mwyn ymestyn y profiad o ddefnyddio’r iaith, cafodd Rhiannon Oliver gyfle i aros ymlaen ar y set i gysgodi’r criw yn ystod gweddill y ffilmio.

“Roedd mor fuddiol i fod mewn gweithle Cymraeg – erbyn diwedd yr wythnos, dechreuais i feddwl yn Gymraeg am y tro cyntaf ac roedd yn deimlad cyffrous iawn! Rhoddodd gymaint o hyder i fi, a dw i’n benderfynol o barhau i ddatblygu fy sgiliau Cymraeg.

“Dw i’n gallu gweld dyfodol i fy hunan nawr wrth ddefnyddio mwy a mwy o Gymraeg – yn fy mywyd personol ac yn fy ngyrfa. Dw i’n teimlo mor lwcus fy mod wedi cael help gan Theatr Genedlaethol Cymru.”

  • Bydd y gyfres Enfys ar gael yn Gymraeg, ac yn Gymraeg gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg. Bydd fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) hefyd ar gael ar YouTube Theatr Genedlaethol Cymru.
  • Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar dudalennau Facebook Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Cymru Fyw ac ar Gylchgrawn Cymru Fyw yn ddyddiol am 7yh yn ystod Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg BBC Radio Cymru (11 i 15 Hydref).