Er mwyn dathlu pen-blwydd arbennig, bydd lluniau’r arlunydd Mike Jones yn cael eu harddangos am wythnos yn unig yr wythnos hon (11 i 16 Hydref).

Mae’r arlunydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed fory (12 Hydref), ac i nodi’r achlysur bydd dros ugain o’i ddarluniau i’w gweld yn Nhŷ’r Gwrhyd ym Mhontardawe.

Y filltir sgwâr yw prif ddylanwad Mike Jones, a chafodd nifer o’r darluniau eu paratoi’n arbennig ar gyfer y gyfrol Wrth eu gwaith, cyfrol sy’n cyfuno gweithiau beirdd a llenorion Cwmtawe â lluniau Mike.

Mae Mike Jones yn adnabyddus am ei waith syml, mynegiadol mewn inc, paent a phaen olew, ac yn amlach na pheidio cymeriadau Cwmtawe yw testun ei waith.

Yn ôl Mike Jones, roedd y casgliad, a gafodd ei gyhoeddi gan Gylch Darllen Cwmtawe, yn “gyfle i gynnwys” ei “hoff gymeriadau” a phobol ei filltir sgwâr – a bydd nifer o’r darluniau hynny i’w gweld yn yr arddangosfa.

Mae pum arddangosfa o waith Mike Jones wedi’u trefnu i gyd, pedair yng Nghymru – yn Ffin y Parc, Llanrwst; Yr Oriel yn Nhrefdraeth; ac Oriel Albany yng Nghaerdydd – ac un yn y Cotswolds.

“Blwyddyn fawr”

“Mae eleni’n flwyddyn fawr. Rwy’n 80 oed!” meddai Mike Jones wrth golwg360.

“Mae’r pandemig wedi effeithio ar gynnal arddangosfeydd ond, diolch byth, mae modd croesawu cyfeillion a chasglwyr nol i’r orielau.

“Maent wedi cael cyfnod anodd fel cymaint o fusnesau bach arall.

“Mae cael cymdogion a chyfeillion lleol yn trefnu, cefnogi a gwerthfawrogi fy narluniau bownd o roi teimlad o falchder imi,” meddai Mike Jones.

“Cyhoeddodd Cylch Darllen Cwmtawe, ddwy flynedd yn ôl, lyfryn, Wrth eu gwaith, sef, casgliad o’m portreadau o gymeriadau’r Cwm a fy ymateb i weithiau beirdd a llenorion lleol.

“Roedd cyfle i gynnwys fy hoff gymeriadau a phobol fy milltir sgwâr: y gweithiwr stîl, y coliar, dyblwr y gwaith tun, y ffermwr a’r wraig tŷ wrth ei gorchwylion dyddiol – gosod y lein ddillad, sgrwbo stepen drws, cario glo a pharatoi’r twba o flân tân.”

“Cofnodi’r oes aur”

Mae Mike Jones, ynghyd â Josef Herman a Will Roberts, ymysg yr arlunwyr olaf i arsylwi cymunedau diwydiannol y de cyn iddyn nhw ddechrau newid.

Bwriad y gyfrol Wrth eu gwaith, a’r gwaith sydd i’w weld ym Mhontardawe’r wythnos hon, yw “cofnodi’r oes aur, cyn machlud y diwydiannau trwm”.

“Nid cwm diwydiannol mo Cwmtawe bellach ond roes glo, haearn a thunplat anadl i greu ffwrnes o ddiwylliant a chymdogaethau unigryw yma ynghyd a thafodiaith bert,” meddai Mike Jones.

“Cofnodi’r oes aur, cyn machlud y diwydiannau trwm mae’r llyfr gyda dyfyniadau o weithiau cewri’r byd llenyddol i gyd-fynd a’m portreadau.

“Denwyd miloedd o gefn gwlad Cymru a thu hwnt i’n pentrefi a’u taflu i’r pair. Roedd y profiadau gafodd Watcyn Wyn, Ben Davies, Dyfnallt, Gwilym Herber a Cefnfab mewn amgylchiadau annynol dan ddaear wrth gloddio am lo, yn sicr o ychwanegu at ddwyster a chyfoeth eu cynnyrch llenyddol.

“Dychmygwch Watcyn Wyn, yn wyth mlwydd oed, yn treulio deuddeg awr y dydd, chwe diwrnod yr wythnos, yn nhywyllwch dudew’r pwll yn cyfansoddi perl o emyn “I ddyfnderoedd pob caledi, nefol wawr dreiddia i lawr: Duw sy’n hau goleuni.”

“A beth am yr unigryw Abiah Roderick a Harri Samuel a’u profiadau yn y gweithfeydd tunplat yng Nghlydach a Phant-teg. Colli ei dad mewn damwain erchyll yng ngwaith stîl Pontardawe roes fodd i Gwenallt ganu am anghyfiawnder.

“Cymdogaeth glos, galed gynigodd gyfleodd i Crwys, Dafydd Rowlands, Meirion Evans a Menna Elfyn.

“Amlygodd rhain oll y dafodiaith unigryw sydd gennym yma yng Nghwmtawe a doedd neb gwell nag Islwyn Williams a T. J. Morgan a’u straeon byrion am fywyd syml cymeriadau Ystalyfera a Glais.

“Ac mae beirdd heddi yn parhau i ganu am fywyd pob dydd ein pentrefi a diolch i Ann Rosser, Robat Powell ac Emyr Lewis am amlygu ein traddodiad barddol a chyfoethogi ein diwylliant.”

Bydd yr arddangos yn Nhŷ’r Gwrhyd ar agor heddiw, ddydd Mercher a ddydd Gwener (11, 13, 15 Hydref) o 10 tan 5, a ddydd Sadwrn (16 Hydref) o 10 tan 3.