Baba, ffilm a gyfarwyddwyd gan Sam Arbor ac Adam Ali, yw enillydd Gwobr Iris 2021, Gwobr Gŵyl Ffilm Fer LHDT+ Ryngwladol Caerdydd.

Bydd y wobr o £30,000 yn galluogi Sam ac Adam i wneud ffilm fer newydd yng Nghymru, y 13eg cynhyrchiad  gan Iris.

Yn ogystal, mae Baba hefyd wedi ennill y wobr Gorau Ym Mhrydain, gyda chefnogaeth Film4 a Pinewood Studios.

Dyma’r eildro yn hanes 15 mlynedd yr ŵyl i ffilm ennill y ddau gategori.

Mae’r enillydd yn derbyn dangosiad unigryw o’r ffilm yn theatr moethus John Barry yn Pinewood Studios ynghyd â charped coch, a derbyniad i’w groesawu gyda diodydd a chanapes wedi’u noddi gan Pinewood Studios Group.

Seremoni

Cyhoeddwyd enillwyr pob categori o wobrau mewn seremoni wobrwyo arbennig nos Sadwrn yn nodi diwedd llwyddiannus dychweliad yr ŵyl i fod yn ddigwyddiad wyneb-yn-wyneb, yng nghwmni y cyfarwyddwyr rhyngwladol David Färdmar a Peeter Rebane, yr actor Tom Prior, ac ymddangosiad annisgwyl gan y gwneuthurwr ffilmiau o’r Unol Daleithiau, Cheryl Dunye, sydd wedi bod yn cyfarwyddo penodau o Bridgerton.

Dywedodd Rasheed Bailey, cadeirydd y rheithgor Gorau ym Mhrydain, am Baba: “Ffilm wedi’i hadeiladu’n fedrus sy’n siarad â gormes, derbyniad a chryfder cymuned.

“Mae’r cyfarwyddo yn drawiadol, yn gydlynol ac yn cynnig eiliadau o hunan-fyfyrio wrth drosglwyddo dewrder a balchder yn hunaniaeth rhywun.

“Mae’r materion a archwilir yn faterion systemig sy’n effeithio ar eraill dirif, ond mae’r stori’n cael ei phortreadu mewn ffordd obeithiol sy’n alwad i’r frwydr dros gydraddoldeb”. Ychwanegodd: “Mae Baba hefyd yn apelio at gynulleidfa eang, oherwydd ei gynhwysion niferus – fel delweddau hardd, hiwmor, cynhesrwydd, ac eiliadau o densiwn ac antur go iawn.”

Hudolus

Y ddwy ffilm â dderbyniodd ganmoliaeth uchel oedd: God’s Daughter Dances, wedi’i chyfarwyddo gan Sungbin Byun. Dywed y rheithgor am y ffilm: “Ffilm ddwys a theimladwy sy’n tynnu sylw at fater pwysig o ran cydraddoldeb rhywiol. Mae’r prif gymeriad yn portreadu dewrder heb ei ail yn wyneb adfyd, ynghyd â llinell stori gymhellol a phaled lliw hudolus.”

We Will Become Better – Sansara, wedi’i chyfarwyddo gan Andzej Gavriss. Dywedodd y rheithgor: “Gydag estheteg ddigyfaddawd, hudolus a strwythur cywrain, mae’r dull creadigol hwn o wneud ffilmiau yn ddathliad o gydraddoldeb. Mae’r ffilm hon yn ein hatgoffa o’r angen i gysylltu ag eraill er gwaethaf pellter ac amgylchiadau.”

Dywedodd cadeirydd y rheighgor Gorau ym Mhrydain: “Mae Baba yn ddarn o sinema drawiadol wnaeth fy ngludo i realiti go iawn â thro gwych.

Y ddwy ffilm â chanmoliaeth uchel oedd: Cwch Deilen, wedi’i chyfarwyddo gan Efa Blosse-Mason. Dywedodd y rheithgor:  “Animeiddiad hudolus, dychmygus a theimladwy gyda delweddau wedi’u tynnu’n hyfryd.”

Emosiynol

Pop, wedi’i chyfarwyddo gan Margo Roe. Dywedodd y rheithgor: “Wedi’i chreu’n hyfryd gyda pherfformiadau cymhleth mewn byd sy’n gyfarwydd â rhai o ffilmiau annibynnol gorau Prydain yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf, ond yn mynd â hi i leoedd unigryw. Bydd y diweddglo yn aros gyda chi ymhell ar ôl y credydau.”

Enillodd Rebel Dykes, wedi’i chyfarwyddo gan Harri Shanahan a Siân A. Williams, wobr Ffilm Nodwedd Orau Gwobr Iris a noddir gan Bad Wolf.

Enillodd Udo Kier, sy’n chwarae triniwr gwallt wedi ymddeol yn Swan Song gan Todd Stephens, wobr Perfformiad Gorau Mewn Rôl Wrywaidd Gwobr Iris mewn ffilm nodwedd a noddir gan Attitude Magazine.

Enillodd Senan Kara, yn chwarae mam dan warchae emosiynol yn Not Knowing gan Leyla Yilmaz, wobr Perfformiad Gorau mewn Rôl Fenywaidd Gwobr Iris mewn ffilm nodwedd a noddir gan DIVA Magazine.

Dangosiadau

Enillodd S.A.M, wedi’i chyfarwyddo gan Lloyd Eyre-Morgan a Neil Ely, Wobr Rheithgor Ieuenctid Gwobr Iris am y Ffilm Fer Orau a noddir gan Brifysgol Caerdydd.

Enillodd Lonely Cowgirl, wedi’i chyfarwyddo gan Lydia Garnett, Wobr y Gymuned a noddir gan Mark Williams er cof am Rose Taylor.

Enillodd Amen, wedi’i chyfarwyddo gan Erick Edwardson, Wobr Ffilm Fer Ficro a noddir gan Mark Williams er cof am Rose Taylor.

Mae Iris Ar Grwydr, menter gwaith maes deithiol Gwobr Iris, yn cychwyn ym mis Ionawr 2022 gan gynnig dangosiadau a gweithdai arbennig ledled y DU, gan gynnwys Llundain, Manceinion, Brighton a Glasgow.

Bydd Gŵyl Gwobr Iris yn dychwelyd fis Hydref 2022.