Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth plentyn drwy yrru’n beryglus.

Digwyddodd y farwolaeth wedi gwrthdrawiad angheuol ar groesffordd Heol Goffa yn Llanelli neithiwr, dydd Gwener, Hydref 8.

Digwyddodd y gwrthrdrawiad rhwng BMW Cyfres 3, lliw glas a Vauxhall Vectra glas, tua 9 o’r gloch yr hwyr.

Ar wahân

Yn anffodus, bu farw plentyn o ganlyniad i anafiadau a ddioddefwyd ganddynt yn y gwrthdrawiad.

Mae swyddogion heddlu arbenigol yn rhoi cymorth i’w teulu.

Roedd y fenyw a gafodd ei harestio yn teithio mewn car ar wahân i’r plentyn.

Mae hi’n parhau yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd. Ni chafodd neb arall unrhyw anafiadau