Mae angen i Gyngor Sir Powys ddysgu’r “gwersi caled a chostus” o fethiannau prosiect blaenllaw meddai cynghorydd.

Mae hyn fel nad yw prosiectau yn y dyfodol yn mynd allan o reolaeth ariannol.

Mewn cyfarfod o’r pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ddydd Gwener, 8 Hydref, trafododd cynghorwyr adroddiad gan archwilwyr mewnol y cyngor, SWAP a edrychodd ar resymau pam y cafodd Y Gaer yn Aberhonddu ei chyflwyno’n hwyr a £5 miliwn dros y gyllideb.

Mae’r pwyllgor yn credu bod yr adroddiad yn rhoi “sicrwydd rhannol” iddynt na fydd y materion yn cael eu hailadrodd yn y dyfodol.

Byddant yn aros i weld adroddiadau ar lywodraethu ariannol a rheoli prosiectau adeiladu eraill, cyn penderfynu bod ganddynt hyder llawn yn y gwiriadau a’r balansau sydd gan y cyngor yn awr.

Diogelu

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, y Cynghorydd John Morris: “Mae angen i ni sicrhau bod y pwrs cyhoeddus yn cael ei ddiogelu.

“Mae’n rhoi dipyn inni gnoi cil arno, mae’n rhaid i ni gyfaddef bod methiannau enfawr, sydd wedi costio tua £13.5 miliwn i’r cyngor hwn a’r trigolion.

“Mae cyfanswm y gost gyda thaliadau llog a grantiau yn dod i £17.5 miliwn, mae’n wers galed a chostus i’w dysgu.

“Mae’n hanfodol bod y cabinet, y pwyllgorau craffu a ni fel a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn sicrhau ein bod yn deall costau prosiectau yn llawn.”

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r pwyllgor gan ddirprwy gyfarwyddwr SWAP Ian Halstead a ganolbwyntiodd ar y broses o lywodraethu a rheolaeth ariannol i ganfod a oeddent yn effeithiol.

Edrychodd eu hadroddiad yn ôl ar y prosiect o’i ddechreuad bron i 20 mlynedd yn ôl ac mae’n nodi 11 maes i’w gwella.

Dywedodd Mr Halstead wrth y pwyllgor y dylai pob prosiect adeiladu gael cofrestr risg unigol, ac y “byddai’n ddoeth” iddynt allu gweld y rheini a “bod yn effro”

Gwallau

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas: “Mae’r adroddiad yn adlewyrchu’r diwylliant ar y pryd, ac mae’n cynrychioli catalog o wallau a chamgyfrifiadau.”

Mynegodd y pwyllgor archwilio, pwyllgorau craffu, y Panel Cyllid, bryderon am elfennau o hyn ac fe’u profwyd yn gywir yn y pen draw.”

Gofynnodd y Cynghorydd Morris i bennaeth cyllid y cyngor, Jane Thomas, sut roedd rheoli prosiectau adeiladu wedi newid yng ngoleuni Y Gaer?

Atebodd y Pennaeth Cyllid, Jane Thomas: “Rwy’n credu mai’r newidiadau pwysicaf yw’r fframwaith llywodraethu cyfalaf a gyflwynwyd gennym ychydig flynyddoedd yn ôl sy’n nodi’n glir ofynion sut rydych yn ystyried prosiect.

“Rydym wedi cyflwyno model busnes pum achos ar gyfer ein holl brosiectau, ac mae’n nodi’r rolau a’r cyfrifoldebau mewn gwirionedd.

“Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o’r prosiectau ysgolion fynd drwy hynny er mwyn tynnu arian Llywodraeth Cymru i lawr.

Cyflawni

“Maent yn fanwl iawn, a byddwn yn dod â nhw i’r pwyllgor Archwilio fel y gallwch ddeall yn well yr hyn sydd wedi’i gynnwys ynddynt.”

Yn y cyfarfod dywedodd cyfarwyddwr amgylchedd ac economi’r cyngor, Nigel Brinn, nad oedd yr adroddiad yn sôn am “yr hyn sydd wedi’i gyflawni mewn gwirionedd”.

Dywedodd Mr Brinn: “Mae’n gyfleuster gwych, mae’n amlwg yn un o’r adeiladau pwysicaf yn y sir.”

“Rydyn ni wedi gallu tynnu £4.5m o gyllid ac mae’n ymddangos bod trafodaethau bron wedi diystyrru dros hynny.

Allweddol

“Roedd y penderfyniadau a’r amseriadau allweddol ar ddiwedd 2016 a dechrau 2017 pan ddyfarnwyd y contractau, daeth yn weithgaredd a reolir ac a lywodraethwyd yn well ar ôl hynny.”

Ym mis Rhagfyr 2019, agorodd canolfan ddiwylliannol a llyfrgell newydd Aberhonddu, Y Gaer.

Ailddatblygiad Neuadd y Sir restredig Gradd II* ac adeiladu llyfrgell fodern newydd yn hen Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog.

Bydd y cyngor yn talu benthyciadau a ddefnyddiwyd i ariannu’r prosiect am 50 mlynedd.