Mae “darganfyddiad anhygoel” yn taflu goleuni o’r newydd ar Oes yr Haearn yng Nghymru, meddai arbenigwyr.

Daethpwyd o hyd i gasgliad o arteffactau harnais ceffylau yn Sir Benfro, a gafodd eu claddu o dan ddaear am bron i 2,000 o flynyddoedd, yn 2018.

Mewn rhaglen newydd, bydd yr archeolegydd Dr Iestyn Jones yn olrhain hanes y trysor – sy’n cael ei ddisgrifio fel un o’r darganfyddiadau archeolegol mwyaf cyffrous mewn degawdau.

Mae’r canfyddiadau wedi codi cwestiynau am bwy gafodd eu claddu ar y safle, ac yn “yn datgloi stori anhygoel ar adeg dyngedfennol o ehangu’r Rhufeiniaid i Brydain”.

Bydd Cyfrinach Bedd y Celtaidd i’w gweld nos Sul ar S4C ac mae hi’n ffrwyth partneriaeth rhwng y Sianel Gymraeg a sianel Smithsonian yn yr Unol Daleithiau, ac mae’r rhaglen wedi’i chreu drwy weithio gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru a’u partneriaid treftadaeth.

Y darganfyddiadau

Daeth Mike Smith o Aberdaugleddau o hyd i gasgliad o arteffactau harnais ceffylau o Oes yr Haearn, gan gynnwys tlws ceffylau mawr, tywysydd enfawr, strap-mownt, a rhannau o ddarn ffrwyn.

Bydd y rhaglen yn ystyried a yw’r safle yn Sir Benfro yn dweud rhywbeth am drobwynt yn ein hanes tuag at adeg goresgyniad y Rhufeiniaid yng ngorllewin Prydain.

Wrth ddilyn y cloddio, bydd gwylwyr Cyfrinach y Bedd Celtaidd yn rhan o’r cyffro wrth i’r archeolegwyr ddarganfod cerbyd rhyfel a chaer penrhyn anhysbys.

Yn ystod dyddiau cynnar y cloddio, maen nhw’n dod o hyd i gleddyf o’r Oes Haearn hefyd, ac mae’r rhaglen yn mynd i’r afael â’r broses wyddonol o ddadansoddi’r canfyddiadau.

“Stori gyfareddol”

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gallu dod â’r stori gyfareddol hon i’r sgrin. Mae’n stori Gymreig unigryw a hynod ddiddorol gydag apêl fyd-eang,” meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Ffeithiol S4C.

“Mae’r comisiwn hwn wedi bod yn hynod arbennig ac rwy’n ddiolchgar i’r holl bartneriaid sy’n ymwneud â’n helpu i wneud i hyn ddigwydd – rydym yn gobeithio y bydd cynulleidfaoedd ledled y byd yn mwynhau’r darganfyddiad archeolegol anhygoel hwn.”

“Hynod ddiddorol”

“Mae hwn wedi bod yn ddarganfyddiad hynod ddiddorol ac unwaith mewn oes i weithio arno, fel un o’r tîm o archeolegwyr ymroddedig, cadwraethwyr, gwirfoddolwyr ac ymchwilwyr sy’n helpu i wneud i’r prosiect hwn ddigwydd,” dywed Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac un o’r archeolegwyr a fu’n arwain y prosiect.

“Ni fyddai’r gwaith wedi digwydd heb gefnogaeth cyllidwyr fel Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ac The Headly Trust.

“Rydym yn falch iawn o weithio gyda’n partneriaid cyfryngau i rannu’r profiad hwn a’r darganfyddiad archeolegol gyda’r cynulleidfaoedd cyhoeddus ehangaf posibl ledled Cymru, y Deyrnas Unedig a’r byd”.

“Pennod newydd”

“Dyma’r union fath o stori rydyn ni wrth ein bodd yn ei chael ar Sianel Smithsonian… hanes, dirgelwch, ac yn hollol gyfareddol. Mae’n ddarganfyddiad unigryw sydd wedi syfrdanu hanes Prydain,” meddai Dan Wolf o Sianel Smithsonian.

“Rydyn ni’n gwybod faint mae hunaniaeth fodern y Deyrnas Unedig yn dod o’i gorffennol balch, a bydd y rhaglen ddogfen hon yn rhoi pennod newydd i stori eu cyndadau i bawb.

“Dyma bobol yr ydym fel rheol yn meddwl amdanynt fel ‘hynafiad hynafol’.

“Ond pan welwch eu gweddillion corfforol – weithiau mae’n anodd credu’r hyn rydych chi’n ei weld ar y sgrin – mae’r rhaglen ddogfen hon wirioneddol yn syfrdanu.

“Americanwr ydw i, ac rydyn ni’n meddwl ein bod ni’n eithaf caled. Ond dy’n ni ni ddim byd i gymharu â’r Celtiaid. ”

“Unwaith mewn oes”

Wildflame Production sy’n cynhyrchu’r rhaglen, ac yn ôl Prif Swyddog Gweithredol a Chynhyrchydd Gweithredol y cwmni, mae’r darganfyddiad yn un “unwaith mewn oes” i’r rhai sy’n cymryd rhan.

“Mae’r darganfyddiad rhyfeddol hwn yn datgelu creiriau o arwyddocâd rhyngwladol ac yn datgloi stori anhygoel ar adeg dyngedfennol o ehangu’r Rhufeiniaid i Brydain pan ddaeth y fyddin Rufeinig ar draws ei phobloedd gorllewinol o’r Oes Haearn,” meddai Paul Islwyn Thomas.

  • Bydd Cyfrinach y Bedd Celtaidd yn cael ei dangos ar S4C a Smithsonian ar nos Sul, 13 Mehefin am wyth.