Mae rhai o chwaraewyr rygbi enwoca’r byd, ffrindiau, a theulu wedi talu teyrnged i Nigel Owens ar gyfer rhaglen arbennig i ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant.

Bydd y cyn-ddyfarnwr yn derbyn sypreis mawr gan Jonathan Davies a Sarra Elgan, ei gyd-gyflwynwyr ar y gyfres Jonathan, ar y rhaglen Nigel Owens 50, fydd i’w gweld heno ar S4C.

Ag yntau’n credu ei fod yn mynd i’r stiwdio i ffilmio pennod o oreuon y gyfres Jonathan, mae Nigel Owens yn cael braw wrth ddysgu mai rhaglen i dalu teyrnged iddo ar drothwy ei hanner cant yw’r rhaglen.

Ar ddiwedd y tymor rygbi hwn, bydd Nigel Owens yn rhoi’r gorau i ddyfarnu’n broffesiynol hefyd. Mae eisoes wedi rhoi’r gorau i ddyfarnu gemau rhyngwladol.

“Pwysig mwynhau bywyd”

“Mae’n anoddach derbyn y ffaith bo fi’n hanner cant nag oedd e i ymddeol! Odd ymddeol yn hawdd i fod yn onest,” meddai Nigel Owens.

“Fi dal am wneud bach o ddyfarnu blwyddyn nesaf, gemau lleol a semi-pro, a fi’n hyfforddi cwpwl o ddyfarnwyr ifanc, fydd yn cymryd lan cwpwl o ddiwrnodau’r wythnos. Wrth gwrs mae gwaith ar y ffarm gyda fi hefyd, a fydda i dal i wneud Jonathan hefyd!

“Mae e mor bwysig mwynhau bywyd a hala amser gyda’r pobol sy’n golygu shwd gymaint i ti, achos ti byth yn gwybod beth sydd rownd y gornel. Mae’n lot o help bo ti’n gallu edrych yn ôl, ac edrych ar ba mor ffodus ydw i di bod.”

“Ymysg y goreuon”

Ar y rhaglen, bydd tad Nigel Owens, Geraint, ei bartner, Barry, a’i ffrindiau, gan gynnwys pencampwr dartiau’r Premier League, Jonny Clayton, yn dymuno’r gorau iddo.

Bydd ystod eang o enwogion hefyd yn talu teyrnged iddo, gan gynnwys cast Coronation Street, Bryn Terfel, Matthew Rhys, Geraint Thomas, a’r gyflwynwraig Alex Jones.

Bydd sawl wyneb cyfarwydd o’r byd rygbi’n ymddangos gyda chyfarchion i Nigel Owens hefyd, gyda chyn-faswr yr Eidal, Tobias Botes, yn eu plith.

Ef oedd ar ben arall un o linellau adnabyddus Nigel Owens: “This is not soccer”.

Un arall fydd yn anfon neges ato yw Stuart Hogg, cefnwr yr Alban a’r Llewod.

“Nige, syr, rydw i eisiau cymryd y cyfle yma i ddymuno pen-blwydd hapus iawn i ti yn 50 oed. Dw i hefyd eisiau dymuno’r gorau i ti gyda dy ymddeoliad,” meddai Stuart Hogg.

“Rwyt ti wedi bod ymysg y goreuon erioed i ddyfarnu’r gamp felly llongyfarchiadau mawr ar hynny.

“Wna i byth anghofio ti’n dweud wrtha i, “if you want to do that, come back in two weeks.” Dwi erioed wedi gallu anghofio hynny! Good times!”

“Atgofion gwych”

“Pen-blwydd hapus Nigel, yr holl ffordd o Seland Newydd,” meddai Dan Carter, cyn-faswr Seland Newydd.

No swearing please, you’re on the telly!” – wna i fyth anghofio ti’n dweud hynny wrtha’ i yng Nghwpan y Byd 2015, dim ond un o’r atgofion gwych ohonot ti’n dyfarnu ni.

“Felly, pob dymuniad da i ti ac ymddiheuriadau am fy acen Gymraeg gwael!”

  • Nigel Owens 50 ar S4C am 9pm heno, 11 Mehefin.