Fe wnaeth 187 o griw Dysgu Cymraeg y gogledd ddwyrain fynychu Eisteddfod y Dysgwyr eleni.

Cafodd yr Eisteddfod ei threfnu gan Goleg Cambria a Phopeth Cymraeg, sy’n benderfynol o gyfrannu at gyflawni nod Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Roedd ymgeiswyr yn cyflwyno’u gwaith a’u perfformiadau trwy gyfrwng lluniau, fideos a chlipiau sain cyn i’r beirniaid ddewis yr enillwyr.

Un oedd wrth ei bodd gyda’r ffaith eu bod nhw wedi penderfynu cynnal yr Eisteddfod, er ei fod wedi gorfod digwydd ar y we, oedd Jeni Harris, Rheolwr Dysgu Cymraeg ar gyfer Sir Wrecsam a Sir y Fflint

“Roedd hi’n noson wych, gyda 187 o bobl wedi ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad ar-lein,” meddai.

“Cafodd y ceisiadau eu cyflwyno ar-lein o flaen llaw a gafodd y tri gorau ym mhob categori eu harddangos yn ystod y digwyddiad trwy gyflwyniad sleidiau, yn ogystal â’r fideos a chlipiau sain gan y rhai oedd yn canu, yn adrodd ac yn actio.”

Ymhlith yr enillwyr roedd Rachel Bedwin, a enillodd y gadair am ei cherdd ar y thema ‘Gobaith’, a Gwyneth Lewis, a enillodd y wobr ryddiaith ar yr un pwnc am ei gwaith 500 gair.

“Adborth positif”

Dywed Jeni Harris bod cynnal y digwyddiad yn rhithiol yn fwy hygyrch ac wedi llwyddo i ddenu cynulleidfa newydd.

Ond mae hi’n edrych ymlaen at groesawu dosbarthiadau yn ôl i’r coleg ac i leoliadau cymunedol pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.

“Wrth ystyried y niferoedd a’r adborth positif rydyn ni wedi ei gael, mae’n bosib efallai y byddwn ni’n parhau i gynnal rhai digwyddiadau a dosbarthiadau ar-lein – mae’n bwysig cadw cydbwysedd,” meddai.

“Yn ystod y pandemig rydyn ni wedi cadw ein niferoedd a hyd yn oed wedi denu dysgwyr newydd, sy’n wych, wrth barhau i gadw safonau’n uchel a dosbarthiadau’n ddiddorol ac yn hwyliog.”