Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi penodi Sian Tomos yn Brif Weithredwr.
Bydd hi’n olynu Nick Capaldi, fydd yn gael ei swydd dros yr haf.
Ar hyn o bryd, Cyfarwyddwr (Datblygu’r Celfyddydau) y Cyngor yw Sian Tomos, ac mae hi’n gyfrifol am Bortffolio Celfyddydol Cymru, y Celfyddydau ac Iechyd a Llywodraeth Leol, Partneriaethau Cyhoeddus, y Gymraeg, Yr Amgylchedd, Ailadeiladu Cymunedol a’r Diwydiannau Creadigol.
Mae hi’n eiriolwr dros Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru sy’n defnyddio egwyddor datblygu cynaladwy er mwyn hybu iechyd a lles.
Ymunodd hi â’r Cyngor pan gafodd ei sefydlu’n wreiddiol a chyn mynd yn gyfarwyddwr, hi oedd Cyfarwyddwr Rhanbarthol y Gogledd am dros ddeng mlynedd.
‘Gweledigaeth, cynhesrwydd, dealltwriaeth ac ymrwymiad’
Dywedodd Phil George, Cadeirydd y Cyngor:
“Dwi wrth fy modd mai Sian fydd ein Prif Weithredwr newydd,” meddai’r cadeirydd Phil George.
“Roedd pob ymgeisydd yn dda, ond gwnaeth Sian argraff ar y panel gyda’i gweledigaeth, ei chynhesrwydd, ei dealltwriaeth o gydweithiol a’i hymrwymiad i hygyrchedd i’r celfyddydau.
“Mae ganddi angerdd dros ddemocratiaeth ddiwylliannol a thros Gymru o gymunedau amrywiol sy’n ymgysylltu â’r celfyddydau.
“Bydd ei phrofiad a’i hanes o gyflawni yn gaffaeliad iddi arwain y Cyngor ac eiriol dros y sector.
“Bydd yn ein llywio ar hyd y daith at Gymru decach a chynhwysol.”
‘Diolch’
Mae Phil George wedi diolch i Nick Capaldi am ei “gyfraniad gwych”.
“Hoffwn ddiolch i Nick Capaldi am ei gyfraniad gwych at gelfyddydau Cymru dros y blynyddoedd,” meddai.
“Defnyddiai arian cyhoeddus yn ddarbodus i greu amgylchedd iach i’r celfyddydau ffynnu ac arweiniai’n glir yn ystod y pandemig.”
Bydd Sian Tomos yn dechrau yn ei swydd newydd ym mis Medi.