Mae S4C wedi cyhoeddi bod criw’r ddrama ‘Un Bore Mercher’ wedi ailddechrau ffilmio’r gyfres.
Buodd yn rhaid rhoi’r gorau i ffilmio trydedd cyfres y ddrama ym mis Mawrth yn sgil pandemig y coronafeirws.
Ond nawr bod ffilmio wedi ailddechrau, mae S4C yn darogan y bydd ‘Un Bore Mercher’ yn dychwelyd i’r sgrîn fach cyn diwedd y flwyddyn.
“Mae’r byd ffilm a theledu wedi teimlo cryn ergyd yn sgil Covid-19, ac fel nifer o ddiwydiannau eraill, mae wedi profi cyfnod ansicr iawn,” meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C.
“Bu’n rhaid i nifer o gynyrchiadau stopio’r camerâu yn ddisymwth ar ôl misoedd o waith cynllunio a pharatoi oddi ar y set, felly mae’n braf cael y golau gwyrdd i fynd ati eto.
“Rydym yn edrych ymlaen at, a hynny am y tro olaf wrth gwrs” ychwanegodd Gwenllian.
“Roedd cymaint o bethau’n ben agored ar ddiwedd yr ail gyfres, rwy’n siŵr fod pawb ar bigau’r drain i ddarganfod beth fydd ffawd Faith a’i theulu ar ddiweddglo’r gyfres.”