Mae’r Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Prydain (Bafta) wedi cyhoeddi y bydd y seremoni wobrwyo yng Nghymru yn dal i gael ei chynnal yn 2020.

Cânt eu cynnal ym mis Hydref gan roi ystyriaeth i gyfyngiadau’r coronafeirws.

Caiff enwebiadau a manylion pellach am fformat seremoni Bafta Cymru eu cyhoeddi ar 3 Medi.

Angharad Mair yng nghyfarfod blynyddol YesCymru

Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd Bafta Cymru: “Rydym yn falch iawn o allu cadarnhau y bydd gwobrau Bafta Cymru yn mynd yn eu blaen yn 2020.

“Mae talent greadigol Cymru wedi bod yn hanfodol wrth roi gwybodaeth i’r genedl a diddanu pobl drwy gydol y misoedd diwethaf anodd hyn.

“Mae’r diwydiant wedi parhau i ymgysylltu’n frwdfrydig â’r broses o [baratoi’r] gwobrau felly teimlwn ei bod ond yn iawn i ni barhau â’n gwaith yn 2020 i gydnabod rhagoriaeth mewn crefft, perfformio a chynhyrchu gan dalent a chynyrchiadau Cymreig creadigol.

“Rydyn ni’n falch o fod wedi bod yn dathlu diwydiannau sgrin Cymru ers bron i 30 mlynedd ac rwy’n edrych ymlaen at seremoni wych arall, os nad ychydig yn wahanol, yn 2020.”

Y mis diwethaf, cyhoeddodd Bafta y bydd Gwobrau Teledu’r Academi Brydeinig yn mynd yn eu blaen fel sioe stiwdio gaeëdig i gael ei darlledu’n fyw ar BBC One ar Orffennaf 31 gyda’r buddugwyr yn derbyn gwobrau dros y we.