Clawr yr albwm newydd
Yr wythnos hon mae Twmffat yn lansio ei albwm newydd o’r enw ‘Dydi Fama’n Madda i Neb’.

Hon yw’r ail albwm gan y grŵp sy’n cael eu harwain gan yr enigma Ceri Cunnington, ffryntman Anweledig.

Mae’r grŵp hefyd yn cynnwys Philip Lee Jones, aelod o Gwibdaith Hen Frân, ymysg yr aelodau a chyd-gyfansoddwr enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni.

Mae’r albwm yn dilyn taith ddiweddar y band o amgylch Cymru gyda Jamie Bevan a’r Gweddillion a DJ Alun JJ Sneed o’r enw, ‘Ti’n deud Twndis a dwi’n deud Twmffat’.

Dydi Fama’n Madda i Neb

Mae enw’r  casgliad newydd yn un sy’n ennyn chwilfrydedd ac mae stori ddifyr tu ôl iddo yn ôl prif ganwr y grŵp.

‘Roedda’ ni ar y ffordd i gig yn Wrecsam, ac yn mynd dros y Migneint (lle anial uwchben Blaenau Ffestiniog) a nath Phil just dod allan efo’r lein “Dydi Fama’n Madda i Neb”…” meddai Ceri Cunnington.

“Roedd hyn yn asio yn berffaith efo’r syniadau tu ôl i’r caneuon.”

“Mae’r byd, a dy ben, yn gallu bod yn le ‘eitha unforgiving a thywyll yn yr oes sydd ohoni, ac yr opsiwn hawdd ydi claddu dy hun mewn hunan dosturi.”

“Ein dewis ni ydi hi os da ni am newid pethau er gwell…….. ‘da ni’n bobl syml sydd wedi creu byd cymhleth i ni’n hunain’” ychwanegodd Cunnington.


Ceri a Phil yn mwynhau cyn gig
Datblygiad

Mae’r un egwyddor yn dilyn yr albwm yma a gyda’r gynta’ ‘Myfyrdodau Pen Wy’ yn ôl Ceri, “tollti cynnwys pob dim mewn Twmffat a gweld be di’r canlyniad!”.

Disgrifia sut aethant nhw i mewn i’r stiwdio “efo hanner syniadau am gyfnodau byr a thrio tynnu creadigrwydd pawb at ei gilydd. Mae’r sŵn yn sicr wedi newid wrth i aelodau adael ac aelodau newydd ymuno.”

Mae’r albwm yn cynnwys cân gan Y Mistêcs yn wreiddiol, cân o’r enw ‘Pobol Digwylidd’.

“Roedd Phil sy’ yn y band yn aelod o’r Mistêcs. Ges i’n magu drws nesa i Phil ac yn gallu clywed nhw’n ymarfer o’r llofft” meddai Ceri.

“Er bod geiriau’r gân yn llawn ‘teenage ankst’ sa chdi’n gallu trawsblannu’r neges tu ôl i’r gan i gyfnod heddiw, hynny ydy mai bancwyr, gwleidyddion ac unrhyw rai efo teimlad o bŵer ydi’r bobl digywilydd!

“Yr un math o bobl oedd yn dweud wrtha’ ni am stopio chwarae pêl-droed. Power corrupts!”

Yn ôl y prif ganwr mae’r albwm yn “dywyll, golau, hapus, trist, hunangyfiawn, cyfiawn, gwerin, pync……boncyrs ond byth yn boring!”.

Bydd yr albwm yn cael ei lansio’n swyddogol yn nhafarn y ‘Ring’ Llanfrothen dydd Sul yma.

Mae ‘Dydi ‘Fama’n Madda i Neb’ ar gael i lawr lwytho ar itunes rŵan.

Gohebydd: Maia Jones