Jodie Marie
Mae trefnwyr Gŵyl Sŵn wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal taith Gymreig i’r gantores ifanc Jodie Marie yn yr hydref.

Mae’r Gymraes Gymraeg o Sir Benfro’n denu sylw cynyddol yn ddiweddar.

Ymddangosodd Marie, sydd wedi’i harwyddo i label enwog Decca, ym Mhabell Roc cylchgrawn Golwg llynedd a cafwyd rhaglen ddogfen amdani ar S4C yn ddiweddar.

Byd y gyfres o gigs mewn lleoliadau Cymreig yn dechrau ar 29 Medi ac yn ymweld â nifer o leoliadau amlwg.

Dyddiadau’r daith:
29 Medi – Canolfan Celfyddydau Muni, Pontypridd
1 Hydref – Neuadd Dewi Sant, Caerdydd
5 Hydref – Neuadd Gwyn, Potypridd
6 Hydref – Theatr Hafren, Powys
10 Hydref – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth