Tecwyn Ifan (llun gan Sain)
Trwy’r wythnos hon mae Golwg360 yn cyhoeddi clip ecsgliwsif o un o ganeuon newydd casgliad bocs-set Llwybrau Gwyn gan Tecwyn Ifan.

Cafodd y casgliad o 107 o ganeuon ei ryddhau gan Recordiau Sain yr wythnos diwethaf.

Rydym eisoes wedi clywed ‘Dy Garu di sy Raid’ a ‘March Gwyn’, gyda chyflwyniad byr i’r caneuon gan Tecwyn Ifan ei hun.

Y drydedd gân o’r saith newydd ydy ‘Y Groesffordd’ sydd â geiriau wedi eu hysgrifennu gan y diweddar Iwan Llwyd.

Dyma’r cefndir gan y cyfansoddwr:

“Cefais eiriau’r gân yma gan Iwan Llwyd y tro olaf i mi fod yn ei gwmni mewn noson Stomp yn Llanrwst.”

“Mae’n debyg bod y gerdd yn perthyn i sgript ‘Catraeth – Daeth Un yn Ôl’ y bu Iwan ac eraill yn gweithio arni ychydig flynyddoedd yn ôl. ’Chlywodd Iwan ’mo’r gân…”

Bydd Tecwyn Ifan yn cynnal ail gig lansio yng Ngwesty’r Dolydd, Llanrwst nos Wener yma, 15 Mehefin, gydag Alun Tan Lan a Siddi’n cefnogi.