Dros yr wythnos diwethaf mae Golwg360 wedi bod yn cyhoeddi clip ecsgliwsif o un o ganeuon newydd Tecwyn Ifan bob dydd.

Dyma ni wedi cyrraedd y seithfed, a’r olaf o’r caneuon newydd sydd wedi eu cyhoeddi fel rhan o focs-set newydd y cerddor hoffus.

Mae Tecs wedi cydweithio â’r bardd o Gaerfyrddin, Mererid Hopwood, wrth gyfansoddi ‘Cân yr Adar Mân.

“Cân yr Adar Mân gan Mererid Hopwood sy’n sôn am y drones” meddai Tecwyn Ifan.

“Y drones ydy’r awyrennau dibeilot sy’n cael eu hymarfer dros ardal helaeth o dde-orllewin Cymru ar hyn o bryd.”

Mae portread o Tecwyn Ifan yn rhifyn wythnos diwethaf (7 Mehefin) o gylchgrawn Golwg, sydd hefyd ar gael i’w brynu ar ffurf ap Golwg.

Mae Llwybrau Gwyn ar gael i’w brynu rŵan ar label Sain.