Clawr Llwybrau Gwyn
Trwy’r wythnos mae Golwg360 wedi bod yn cyflwyno clip o gân newydd gan Tecwyn Ifan.

Mae’r saith trac newydd allan rŵan fel rhan o focs-set cyflawn o’i waith sydd wedi’i ryddhau gan Sain.

Heddiw rydym yn chwarae clip o’r chweched trac, ‘Gwrthod bod yn Blant Bach Da’.

Gyrfa gerddorol

Dechreuodd Tecwyn Ifan ei yrfa gerddorol fel aelod o Perlau Taf ar ddiwedd y 1960au.

Aeth ymlaen i ymuno â Iestyn Garlick, Cleif Harpood a Phil Edwards fel aelod o’r grŵp Ac Eraill ar ddechrau’r 1970au cyn mynd ymlaen i berfformio ar ei liwt ei hun.

Fel artist unigol mae wedi cyhoeddi nifer o albyms – Y Dref Wen, Dof yn ôl, Goleuni yn yr hwyr, Edrych i’r gorwel, Herio’r oriau du, Stesion Strata a Wybren Las – mae’r cyfan yn rhan o’r bocs-set 5 CD newydd ‘Llwybrau Gwyn’.

Amserol

Mae ‘Gwrthod bod yn Blant Bach Da’ yn amserol iawn wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddathlu hanner canmlwyddiant y mudiad gyda gig mawreddog ym Mhafiliwn Pontrhydfendiaid fis nesaf.

“Daeth geiriau’r gân yma gan Myrddin ap Dafydd” meddai Tecwyn Ifan

“Mae’n cofnodi sefydlu Cymdeithas yr Iaith hanner canrif yn ôl i eleni.”

Mae portread o Tecwyn Ifan yn rhifyn wythnos diwethaf (7 Mehefin) o gylchgrawn Golwg, sydd hefyd ar gael i’w brynu ar ffurf ap Golwg.