Tecwyn Ifan yn perfformio (llun gan Sain)
Mae bocs-set cyflawn o’r holl ganeuon sydd wedi eu rhyddhau gan Tecwyn Ifan wedi ei ryddhau ar label Sain.
Ers dechrau ar ei yrfa fel aelod o Perlau Taf ar ddiwedd y 1960au, mae Tecwyn wedi selio ei hun fel un o gyfansoddwyr mwyaf toreithiog i sin Gymraeg.
Mae’r bocs-set yn cynnwys 107 o’i ganeuon, gan gynnwys 7 o draciau newydd sbon – mae Golwg360 wedi cael caniatâd i chwarae clip o bob un o’r rhain dros yr wythnos yma.
Heddiw, cân o’r enw ‘Y Dathliad’ sy’n cael ein sylw.
Dyma gefndir ‘Y Dathliad’ yng ngeiriau Tecwyn Ifan ei hun.
“Cân yn seiliedig ar stori ‘Noson y Fodrwy’ gan Eleri Llywelyn Morris yw hon.”
“Un dehongliad posib o’r stori sydd yma. Falle bod yr hyn y mae rhywun arall yn gweld yn y stori yn wahanol!”
Lansiwyd y casgliad yr wythnos diwethaf, ond bydd ail gig lansio yn cael ei gynnal yng Ngwesty’r Dolydd, Llanrwst heno, Gwener 15 Mehefin gydag Alun Tan Lan a Siddi’n cefnogi.
Mae portread o Tecwyn Ifan yn rhifyn wythnos diwethaf (7 Mehefin) o gylchgrawn Golwg, sydd hefyd ar gael i’w brynu ar ffurf ap Golwg.