Lady Gaga
Mae’r gantores Lady Gaia wedi dod dan y lach gan Adran Ddiwylliant llywodraeth Gwlad Thai, a hynny wedi yr hyn maen nhw’n ei ddisgrifio yn “ddefnydd anaddas” o faner y wlad mewn cyngerdd yn Bangkok y mis diwetha’.

Fe wisgodd Lady Gaga benwisg traddodiadol a bicini, ac eistedd ar fotorbeic gyda baner Gwlad Thai wedi’i chlymu iddo.

Ond mae’r Adran Ddiwylliant yn dweud nad oedd yr act yn addas, a bod y cyfan “wedi brifo teimladau pobol Gwlad Thai”.

Mae Ysgrifennydd Parhaol yr adran wedi cadarnhau ei fod wedi trosglwyddo pecyn o gwynion ynglyn â’r cyngerdd i’r heddlu. Er hynny, doedd y llywodraeth ddim yn bwriadu gofyn am gynghor cyfreithiol na chymryd camau yn erbyn y ddifa bop o America, meddai.

Mae taith Lady Gaga o gwmpas cyfandir Asia wedi bod yn boblogaidd iawn hyd yma, ond mae wedi codi aeliau yma ac acw gan bobol ychydig yn fwy traddodiadol. Fe gafodd un sioe yn Indonesia ei chanslo ar ôl i eithafwyr Mwslimaidd ei lambastio’n llym.