Nebula
Y grŵp o Abertawe, Nebula, gipiodd deitl Brwydr y Bandiau C2 Radio Cymru neithiwr.
Roedd Nebula’n un o 4 grŵp oedd yn cystadlu am bleidlais y gwrandawyr yn rownd derfynol y gystadleuaeth ar raglen Lisa Gwilym.
Dros yr wythnosau diwethaf mae grwpiau ledled Cymru wedi bod yn cystadlu am le yn y ffeinal, gyda Nebula, Fast Fuse, Sgidie Glas a Tymbal yn cyrraedd y rhestr fer.
Roedd cyfle i wrandawyr y rhaglen neithiwr glywed traciau arbennig wedi eu recordio yn y stiwdio gan y 4 band, cyn bwrw eu pleidlais am y gorau.
Lisa Gwilym
Cam mawr
Er bod tri o banelwyr yn y stiwdio i roi eu barn, sef Elin Fflur, Guto Brychan ac Ywain Gwynedd, pleidlais y cyhoedd oedd yn dyfarnu’r enillwyr.
“Mae’n anodd egluro sut ni’n teimlo – mae’n gam nesaf mawr i ni” meddai Llŷr Thomas, prif ganwr Nebula.
“Mae’n anodd cymryd cam fel hyn yn y byd cerddoriaeth. Gethon ni 10 allan o 10 gan Elin Fflur [am eu cân] ac mae e’n deimlad gwych.”
“Diolch anferthol i’r gwrandawyr – wnaeth cymaint o bobol helpu ni ledaenu’r neges, felly diolch iddyn nhw hefyd.”
“Ni nawr ffaelu aros i recordio’r ail-sesiwn gyda C2. Mae rhaid dweud, yn edrych nôl, roedd y sesiwn recordio cyntaf yn brofiad gwych.”
Am eu hymdrechion, bydd Nebula nawr yn derbyn y canlynol fel gwobr:
- cytundeb i recordio Sesiwn i C2, Radio Cymru (fel arfer 3 cân)
- perfformio mewn Gŵyl fawr genedlaethol megis Maes B, yr Eisteddfod Genedlaethol
- perfformio yng Ngŵyl Sŵn 2012
- perfformio ar lwyfan y Pentref Ieuenctid, Sioe Frenhinol 2012
- chwarae yng Ngŵyl Gwydir
- cael erthygl ‘tudalen-lawn’ yn un o rifynnau cylchgrawn ‘Y Selar’
- sesiwn luniau hanner diwrnod gyda ffotograffydd proffesiynol
- cynnig i chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru