Sen Segur
Mae sengl newydd Sen Segur ar gael i’w brynu o heddiw ymlaen, a hynny ar fformat casét.
Rhyddheir ‘Sarah // Nofa Scosia’ ar label I Ka Ching, sydd hefyd wedi rhyddhau deunydd gan Jen Jeniro a Texas Radio Band yn ddiweddar.
Daeth y grŵp o Benmachno yn Nyffryn Conwy i sylw llynedd, gan ryddhau eu EP cyntaf ‘Pen Rhydd’ ym mis Mai.
Ers hynny maen nhw wedi mynd o nerth i nerth ac wedi sefydlu eu statws fel un o grwpiau mwyaf addawol y sin Gymraeg.
Mae dewis fformat casét yn ymddangos fel penderfyniad rhyfedd i grŵp Ifanc, ond maent yn dilyn esiampl grŵp arall o Ddyffryn Conwy, Jen Jeniro a ryddhaodd sengl ‘Dolffin Pinc a Melyn’ ar yr un fformat yn ystod haf 2010.
Bydd gig lansio swyddogol y sengl newydd yn digwydd nos Wener yma yng Nghapel Curig.
Gigs Sen Segur:
20 Ionawr – Tŷ’n y Coed, Capel Curig gyda Gallops a Swnami
27 Ionawr – Llew Du, Aberystwyth gydag Y Niwl
10 Chwefror – Y Llangollen, Bethesda
11 Chwefror – Clwb Ifor Bach, Caerdydd