Clawr cyfrol 100 o Ganeuon Pop
Mae’r llyfr 100 o Ganeuon Pop yn sicr wedi bod yn boblogaidd – cafodd 700 o gopiau o’r llyfr eu gwerthu o fewn y pythefnos cyntaf.

Fel y tri beirniad Simon Cowell, Louis Walsh a Cheryl Cole ar yr X-Factor erstalwm (cyn dyddiau Danni Minogue), tri o staff y Lolfa fu ar y panel dewis oedd yn dewis y caneuon.

Meinir Wyn Edwards yw golygydd y gyfrol, sy’n cynnwys geiriau, alawon a chordiau gitâr cant o glasuron y Sîn Roc Gymraeg.

Aeth ati i lunio “rhestr gychwynnol o’r clasuron fydde pobol yn disgwyl – ‘Ysbryd y Nos’ gan Edward H, ‘Y Cwm’ gan Huw Chiswell, ‘Yma o Hyd’ Dafydd Iwan a ‘Ceidwad y Goleudy’.

Cyn pen dim roedd ganddi 120 o ganeuon, a daeth mwy wrth i’r Lolfa holi pobol am eu pum hoff gân ym Mhrifwyl Glyn Ebwy.

Aeth Meinir Wyn Edwards ynghyd â’r brodyr Lefi a Garmon Gruffudd ati wedyn i chwynnu gyda chrib mân, nes penderfynu ar y caneuon terfynol.

“Doedd dim prinder caneuon, ond gormod o ganeuon da i’w cael,” meddai.

“Fydda’ i’n gwrando ar y radio bob dydd ac mae wastad cân yn dod ymlaen a fi’n meddwl: ‘Dyle honna fod yn y rhestr’.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 6 Ionawr