Bydd ailargraffiad o nofelau Mark Twain, Adventures of Huckleberry Finn a Tom Sawyer, yn hepgor gair hiliol er mwyn osgoi pechu darllenwyr newydd.

Yn ôl yr ysgolhaig ar Mark Twain, Alan Gribben, sy’n gwneud y gwaith, mae’r gair “nigger” yn ymddangos 219 o weithiau yn Huckleberry Finn, a phedair gwaith yn Tom Sawyer.

Dywedodd ei fod o’r farn y byddai cynnwys y gair yn dieithrio darllenwyr cyfoes, oherwydd ei gysylltiadau hiliol.

Y perygl yw y bydd y nofelau cael eu hystyried yn glasuron llenyddol ond bod neb yn eu darllen, os nad yw’r geiriau yn cael eu hepgor.

“Mae’n drueni mawr y gallai un gair fod yn gymaint o rwystr i ddarllenwyr fwynhau profiad llenyddol gwych,” meddai Alan Gribben.

Yn ogystal â newid y gair dan sylw, mae Alan Gribben wedi newid enw’r dyn drwg yn Tom Sawyer o Injun Joe i Indian Joe, a “half-breed” i “half-blood”.

Anghytuno

Ond mae ysgolheigion eraill yn dadlau bod Mark Twain wedi dewis y gair ar bwrpas.

Mewn llythyr yn 1888, dywedodd fod “y gwahaniaeth rhwng y gair sydd bron yn iawn, a’r gair iawn, yn fater o bwys”.

Ni fydd y fersiwn diwygiedig yn cael ei gyhoeddi nes fis Chwefror, ond mae Alan Gribben eisoes wedi derbyn sawl e-bost blin yn gwrthwynebu’r newid.

Dywedodd Alan Gribben bod yr e-byst yn brawf bod y gair “nigger” yn gwneud pobl yn anghyfforddus.

“Does dim un o’r e-byst yn cyfeirio at y gair ei hun. Maen nhw’n ei osgoi ar bob cyfri.”

Dywedodd ysgolhaig arall ar Mark Twain, yr athro Stephen Railton o Brifysgol Virginia, fod creu fersiwn newydd “yn syniad ofnadwy”.

Mae’r iaith yn darlunio cyfnod yn hanes America, meddai Stephen Railton, ac ni fyddai diweddariad o’r fath yn gydnaws â’r cyfnod yr oedd Mark Twain yn ysgrifennu ynddo.