Nos Fercher nesaf mae’r canwr-gyfansoddwr amryddawn, Huw M, yn cynnal gig lansio ei albwm newydd Gathering Dusk.

Dyma fydd ail albwm y cerddor yn dilyn y casgliad Os Mewn Sŵn a brofodd i fod yn llwyddiannus iawn wedi ei ryddhau yn 2010.

Mae cryn edrych ymlaen wedi bod at ei gynnig diweddaraf ymysg ei gefnogwyr yng Nghymru, ond mae Huw Roberts yn gobeithio y bydd yn cyrraedd cynulleidfa ehangach gyda’r albwm newydd.


Ystafelloedd Gwag
o’r albwm Gathering Dusk gan Huw M

Chwyldro Tawel

Bydd Gathering Dusk yn cael ei rhyddhau ar lefel Brydeinig yn haf 2012, ac mae’n ystyried trefnu taith go arbennig bryd hynny.

“Mi fyswn i’n hoffi gwneud taith o’r enw ‘Chwyldro Tawel’, a mynd i lefydd sydd ddim fel arfer yn cynnal gigs” meddai wrth Golwg360.

Mae enw’r daith yn cyd-fynd ag enw un o’r traciau ar yr albwm newydd, sy’n cynnwys deg o ganeuon, ac sydd wedi’i ryddhau ar label Gwymon.

“Fyswn i’n hoffi perfformio mewn canolfannau gwahanol, llefydd sy’n wrthgyferbyniol i dafarnau a chlybiau lle mae gigs fel arfer.”

“Mae gwneud gigs efo dim PA, dim ond lleisiau a sŵn yr offerynnau acwstig, yn apelio’n fawr iawn.”

“Nes i chwarae yn yr amgueddfa yng Nghaerdydd llynedd, ac mae’r teimlad a’r awyrgylch yn hollol wahanol. Mae’r sŵn yn wahanol iawn hefyd achos ti’n gallu jyst defnyddio’r acwstics naturiol yn rhywle fel hyn.”

Balans bywyd teulu a cherddorol

Cyn hynny bydd rhaid i Huw M geisio ymdopi â newidiadau yn ei fywyd teuluol gan fod ei wraig, Beth, yn disgwyl eu hail blentyn ym mis Mawrth.

Yn ei swydd o ddydd i ddydd, mae Huw Roberts yn gynhyrchydd ar raglenni Radio Cymru. Ydy taro balans rhwng hynny, ei yrfa cerddorol a bywyd teulu yn sialens felly?

“Dyw hi ddim yn hawdd,” mae’n cyfaddef.

“Beth sydd wedi bod yn dda ydy fod Beth yn canu efo fi, felly rydan ni’n gallu cytuno ynglŷn â beth ydan ni’n gwneud o ran gigs ac ati.”

“Mae’r babi’n ffactor arall wrth gwrs – dwi’n credu mai amser ydy’r peth mwyaf gwerthfawr sydd gennym ni, a rhaid i fiwsig ddod ar ôl teulu.”

Celf a cherdd

Roedd gwaith celf Os Mewn Sŵn yn drawiadol iawn, ac mae’r un peth yn wir am y casgliad newydd.

Fel gyda’r albwm cyntaf, Aled ‘Arth’ Cummins sy’n gyfrifol am y gwaith celf ar y clawr a’r llyfryn sy’n dod gyda’r CD newydd.

“Mae ‘na lot fawr o waith wedi mynd mewn iddo gan Aled, a dwi’n hapus iawn efo’r ffordd mae o wedi troi allan.”

Yn ôl y cerddor, mae pecynnu cerddoriaeth yn bwysig iawn, a bron iawn mor bwysig a’r gerddoriaeth. Mae clawr a llyfryn Gathering Dusk yn cynnwys nifer o luniau a delweddau trawiadol sy’n berthnasol iawn i’r caneuon.

“Mae delwedd yn bwysig iawn o ran y cymesurau mae o’n ei greu.”

“Mae’r clawr yn gyfraniad yr un mor bwysig i gyfanwaith yr albwm. Y llun ar glawr yr albwm wnaeth i mi benderfynu mai Gathering Dusk fyddai’r enw – roedd gen i nifer o enwau eraill cyn hynny, ond wrth weld y llun yma y gwnes i benderfynu’n derfynol.’

“Yn y llyfryn mae llun ar bob tudalen gyda geiriau’r caneuon a dwi’n gobeithio y bydd pobol yn gallu gweld y cysylltiad rhwng y llun a’r gân. Ella fod y cysylltiad ddim mor amlwg a hynny, ond mae o yna i bobol feddwl amdano.”

Bydd gig lansio Gathering Dusk yn gael ei gynnal yn Gwdihŵ, Caerdydd nos Fercher 14 Rhagfyr.

Gallwch ddarllen mwy am yr albwm newydd mewn cyfweliad gyda Huw M yn y cylchgrawn Golwg yr wythnos hon.