Gruff Rhys fydd yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig yn seremoni Gwobrau’r Selar eleni.

Caiff y wobr ei rhoi bob blwyddyn i gerddor sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i’r sîn Gymraeg dros gyfnod hir o amser, ac sy’n dal i wneud.

Mae’n ymuno â rhestr sy’n cynnwys Pat a Dave Datblygu, Geraint Jarman, Heather Jones, a Mark Roberts  a Paul Jones (Y Cyrff, Catatonia, Y Ffyrc).

Gyrfa

Fel drymiwr gyda’r band Machlud y dechreuodd Gruff Rhys ei yrfa fel cerddor, ac fe aeth yn ei flaen i fod yn aelod o’r band Emily wedyn.

Roedd e’n un o aelodau gwreiddiol Ffa Coffi Pawb yn 1986, wrth iddyn nhw ryddhau tair albwm, Clymhalio, Dalec Peilon a Hei Vidal!

Pan ddaeth Ffa Coffi Pawb i ben yn 1993, fe wnaeth e ffurfio’r Super Furry Animals ynghyd â Dafydd Ieuan a’i frawd Cian Ciaran, Huw Bunford a Guto Pryce.

Rhys Ifans, yr actor, oedd canwr gwreiddiol y band.

Daeth y band yn un o fawrion y sîn gerddoriaeth o fewn dim o dro, gan ganu yn Saesneg yn bennaf ond roedden nhw’n dal i hybu’r Gymraeg ar draws y byd.

Fe gyrhaeddodd eu halbwm uniaith Gymraeg, Mwng, rif 11 yn siartiau albwm Prydain yn 2000.

‘Un o gerddorion Cymraeg pwysicaf ei genhedlaeth’

Record uniaith Gymraeg oedd cynnyrch unigol cyntaf Gruff Rhys, sef yr albwm Yr Atal Genhedlaeth, a ryddhawyd yn Ionawr 2005.

Er hynny mae wedi rhyddhau pum albwm unigol arall, gyda’r diweddaraf, Pang!, unwaith eto’n record gyfan gwbl Gymraeg.

Bydd ei gyfraniad yn cael ei ddathlu yn noson Gwobrau’r Selar yn Stiwdio Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth nos Iau, Chwefror 13, lle bydd e’n cael ei holi gan Huw Stephens ac yn perfformio nifer o’i ganeuon.