Mae Caitlyn Jenner, seren cyfresi teledu realaeth, wedi bod yn annerch cynulleidfa mewn digwyddiad arbennig yng Nghasnewydd.

Bu’n siarad â Roman Kemp yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Casnewydd heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 25).

Roedd disgwyl iddi drafod ei bywyd, ei gyrfa fel athletwr gwrywaidd o’r enw Bruce Jenner oedd wedi ennill medal aur Olympaidd yn y decathlon, ei thriniaeth i ddod yn fenyw a’i hymddangosiad yn y gyfres realaeth I’m A Celebrity… Get Me Out of Here.

Ei phlant yw Kylie a Kendall Jenner, a’i llysferched yw Kourtney, Kim a Khloe Kardashian, sydd hefyd yn sêr teledu realaeth.