“Mae bron iawn yn teimlo fel bod rhyddhau’r caneuon yma fel rhyddhau caneuon newydd,” meddai un o aelodau Eden, wrth i holl ganeuon y grŵp fod ar gael i’w ffrydio ar-lein am y tro cyntaf erioed.

Mae dros 20 mlynedd wedi mynd ers i’r grŵp pop poblogaidd gyhoeddi’r albwm, Paid â Bod Ofn,yng nghanol bwrlwm yr 1990au.

Mae’r dyddiau prysur hynny bellach ar ben i’r grŵp, meddai Emma Walford, ond mae hi, Non Parry a Rachael Solomon yn dal i “gigio’n achlysurol”.

A bydd y merched yn dychwelyd i’r llwyfan eleni eto, a hynny ar gyfer gig arbennig ym Mhafiliwn Maes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

“Yr adeg iawn”

Yn ôl Emma Walford, mae yna alw mawr wedi bod am osod holl ganeuon Eden ar-lein, a gafodd eu rhyddhau ar ffurf casét yn wreiddiol.

“Roedd o jyst i’w weld yn adeg iawn i’w wneud o, gan fod gynnon ni’r gig yma yn y pafiliwn yn Eisteddfod Llanrwst,” meddai Emma Walford wrth golwg360.

“Ac roedd pobol jyst yn gofyn i ni oherwydd eu bod nhw’n mwynhau’r caneuon ac yn methu cael gafael arnyn nhw.”

Crysau-T

Pan berfformiodd Eden ar lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Môn y 2017, roedd cyrsau-t arbennig a oedd cynnwys yr enw ‘Eden’ ar gael i’w prynu, a phrofodd y cynllun i fod yn un llwyddiannus iawn.

Y bwriad eleni yw creu rhai tebyg, meddai Emma Walford, ond gyda’r geiriau ‘Paid â bod ofn’ arnyn nhw.

Fe fydd holl elw’r gwerthiant wedyn yn mynd tuag at wefan Meddwl.org, lle y bu Non Parry yn rhannu ei phrofiadau ynglŷn ag iechyd meddwl yn gynharach yn y flwyddyn.

“Dyma’r unig wefan, dw i’n meddwl, sy’n cynnig adnoddau drwy’r iaith Gymraeg, ac mae hwnna jyst mor bwysig,” meddai Emma Walford.

Dyma glip sain o Emma Walford yn sôn mwy am y crysau-T…