Mae Jim Perrin wedi creu stŵr yn y byd llenyddol Saesneg yng Nghymru, wrth i’w sylwadau ar lyfr gan gyn-ffoadur gael eu disgrifio’n “hiliol”.
Yn ei adolygiad o I, Eric Nghalle yng nghylchgrawn y Wales Arts Review, mae’r cyn-ddringwr a’r awdur teithio yn cwestiynu “dibynadwyedd” profiadau Eric Nghalle Charles o Gamerŵn a fu’n byw fel ffoadur yn Rwsia cyn dod i Gymru.
Mae hefyd yn awgrymu bod Eric Ngalle Charles, sy’n byw yn ardal Trelái, Caerdydd, yn awdur llwyddiannus oherwydd bod sefydliadau llenyddol yng Nghymru yn teimlo rheidrwydd i gefnogi cyn-ffoadur fel fo.
Wrth gyfeirio at haelioni rhai sefydliadau ac unigolion, dywed Jim Perrin: “A ydyn nhw, efallai, ychydig yn credulous, ychydig yn tokenist, yn fan hyn?”
Mae’n bosib darllen adolygiad Jim Perrin yn ei gyfanrwydd trwy glicio ar y linc hwn.
Darllen “anghyfforddus”
Mae’r adolygiad wedi cael ei feirniadu ar y cyfryngau cymdeithasol, gydag un person yn dweud iddi deimlo’n “anghyfforddus” yn ei ddarllen.
Mewn cyfres o drydariadau ar wefan Twitter, mae ‘Yasmin’ (@punkistani) yn cyhuddo Jim Perrin o fod ag agwedd “drefedigaethol”, cyn disgrifio ieithwedd yr adolygiad fel un “hiliol a sarhaus”.
Yn ôl yr awdures Alys Conran wedyn, mae’r adolygiad yn “annheg ac anfoesol” yn y modd y mae’n defnyddio “syniad niweidiol am ddiniweidrwydd Cymreig” er mwyn darlunio Eric Ngalle Charles fel “y dyn drwg”.
https://twitter.com/stonecypher/status/1148529999273701376