Mae’r rhestr fer ar gyfer Gwaith Celf Gorau gwobrau’r Selar wedi cael ei chyhoeddi, gyda thri yn y ras.
Dywed y trefnwyr fod “creu gwaith celf trawiadol ar gyfer cynnyrch cerddorol yn fwyfwy trawiadol” yn oes ffrydio a lawrlwytho cerddoriaeth.
Maen nhw’n dweud bod y wobr hon yn “arbennig o bwysig”.
Y rhestr fer
Y tri ar y rhestr fer yw:
- Mikey Burey – ‘Bubblegum’ gan Omaloma
- Aur Bleddyn – ‘Yn Fy Mhen’ gan Lewys
- Rhys Grail – ‘Sugno Gola’ gan Gwilym
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar benwythnos y gwobrau, Chwefror 15-16.
Y gweithiau celf
Chydig o senglau 7” Bubblegum|Aros o Gwmpas ar ol yn Omaloma HQ. Cysylltwch i archebu drwy paypal! ✨ 📦 pic.twitter.com/5VrwuZhEAh
— OMALOMA (@OMALOMAband) June 26, 2018
🎨 SYLW I’R GWAITH CELF 🎨
Sengl – Yn Fy Mhen, Lewys @LMeredydd
Artist – Aur Bleddyn @aurbleddMae Aur o Lanbrynmair ac yn astudio lefel A mewn celf yn Ysgol Bro Hyddgen. Mae’r llun yma’n cyfleu rhyddhad emosiwn sydd yn gwrthod gadael yr ymwybod. https://t.co/KM0bwJRl7g pic.twitter.com/cqmkvOgPL3
— Recordiau Côsh Records 🎗 (@RCoshR) June 21, 2018
Mi roedd @_gwilym ymhobman yn ystod wythnos yr @eisteddfod. Mae eu halbym gyntaf ‘Sugno Gola’ allan rwan ar @RCoshR – CD/digidol https://t.co/CymRGpPOHK pic.twitter.com/kHqtg947pk
— PYST (@pystpyst) August 12, 2018