Fe fydd y band gwerin Calan ymhlith y perfformwyr mewn gŵyl werin ar ynysoedd y Shetland ym mis Mai.

Bydd y Shetland Folk Festival yn cael ei chynnal rhwng Mai 2-5.

Fe fydd sesiynau i aelodau’r ŵyl yn Lerwick, a fydd yn cynnwys gigs, gweithdai a bar cwrw casgen.

Bydd cyfres o gigs o 15 munud gan yr un perfformwyr mewn tri lleoliad yn Foy ar y dydd Sul, gyda bws yn cludo’r artistiaid rhwng y lleoliadau.

‘Penwythnos gwallgof’

“Mae Shetland Folk Festival wedi cyhoeddi’r bandiau teithiol ar gyfer y penwythnos gwallgof hwn,” meddai Calan ar eu tudalen Facebook.

“Fel y gwelwch chi, fe wnaethon ni fwynhau, efallai ychydig yn ormod y llynedd, gyda chwsg ddim yn fawr o flaenoriaeth ond pwy sy’n becso?

“Am amser hollol wych gawson ni yn cynrychioli Cymru

“Pa mor hir cyn y gallwn ni ddod eto?!”