Bydd Lleuwen yn perfformio mewn capeli ledled Cymru er mwyn hyrwyddo’i halbwm, Gwn Glân Beibl Budr.
Ond cyn hynny, mae cyfle i gael blas ar fideo newydd sbon gan Lleuwen sy’n cael ei ryddhau heddiw (dydd Gwener, Ionawr 11).
Mae caneuon yr albwm yn trafod dibyniaeth, ysbrydolrwydd, twf trefol a chrebachu cefn gwlad.
Hefyd, mae Lleuwen yn troi at hen emynau a hen alawon a geiriau 300 oed sydd yn ei helpu i wneud synnwyr o bryderon cymdeithas heddiw.
Ym mis Chwefror, bydd cyfle i glywed y caneuon yn y capeli canlynol:
14/02 Capel Goffa Williams Pantycelyn, Llanymddyfri, gydag Eddie Ladd
16/02 Capel Salem Canton, Caerdydd, gyda Carol Hardy
17/02 Capel y Morfa, Aberystwyth, gyda Hywel Griffiths
18/02 Capel y Groes, Penygroes, gyda Karen Owen