Bydd rhai o’r gigs cyfrinachol sydd wedi’u trefnu mewn gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd dros wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddwyieithog.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, sy’n trefnu’r gigs fel rhan o’i hymgyrch Dydd Miwsig Cymru, “bydd rhai gigs yn Gymraeg, bydd rhai yn ddwyieithog”.
Mae gigs cudd SHWSH yn cychwyn heno ac maen nhw’n para tan ddydd Sadwrn olaf y Brifwyl ar 11 Awst.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu’r dwyieithrwydd gan ddweud bod y Llywodraeth yn “rhoi’r argraff fod rhaid cael y Saesneg i ‘gefnogi’ y Gymraeg”.
“Maen nhw’n dweud y bydd pobol yn profi gig Cymraeg – fyddan nhw ddim – profi gig dwyieithog fyddan nhw,” meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd y mudiad.
“Mae’r ddau beth yn hollol hollol wahanol. Ai dyma syniad y Llywodraeth o ‘hyrwyddo’ – rhoi’r argraff fod rhaid cael y Saesneg i ‘gefnogi’ y Gymraeg. Mae hyn yn adrodd stori anghywir, negyddol am y diwylliant Cymraeg. So nhw wedi deall!”
Gigs SHWSH
Dyw’r artistiaid na lleoliadau’r gigs ddim yn cael eu datgelu tan ddiwrnod y digwyddiad, ac mae’n rhaid i bobol anfon neges destun i SHWSH ar 60777 neu ddilyn yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn derbyn cliwiau.
Dydy’r digwyddiadau ddim yn rhan swyddogol o’r Eisteddfod Genedlaethol – ond pe bai un o’r gigs dwyieithog yn cael eu cynnal ar y maes, byddai hynny’n torri rheol iaith y Brifwyl.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’n “ymgyrch i gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd wrth i’r Eisteddfod ddod i Gaerdydd.
“Mae’n estyniad o Dydd Miwsig Cymru sydd â’r nod o godi proffil a defnydd y Gymraeg drwy gerddoriaeth.
“Bydd rhai gigs yn Gymraeg, bydd rhai yn ddwyieithog, mae rhai gigs yn awr o hyd. Bydd rhai yn gigs i’r teulu, gigs prynhawn, gigs hwyr, a rhai pethau annisgwyl eraill hefyd.
“Mae gennym hyrwyddwyr newydd, ifanc fel Rat Trap, Hard Lines a Stonewall, yn cynnal gigs mewn lleoliadau cudd.”
Ac wrth siarad am y gig cyntaf ddoe, dywedodd llefarydd, “Roedd hi’n wych i weld wynebau newydd, sydd erioed wedi profi gig Cymraeg cyn neithiwr.
“Gobeithio bydd y cynulleidfaoedd newydd yma yn mynd i fwynhau’r Eisteddfod, ac yn parhau i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg a mynd i fwy a mwy o gigs Cymraeg yn y dyfodol.”