Bydd cyfres o gigs cudd – sy’n rhad ac am ddim – yn cael eu cynnal mewn lleoliadau gwahanol ledled Caerdydd dros yr wythnos nesa’.
Dros yr wythnos ddiwetha’, mae posteri wedi bod yn ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol a strydoedd y ddinas yn hysbysu: “Bandiau byw, lleoliadau cudd, profiadau ecsgliwsif am ddim”.
Mae’r gigs yn cael eu trefnu o dan adain SHWSH, sef ymgyrch sy’n rhan o Ddydd Miwsig Llywodraeth Cymru.
Bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ddod i brifddinas, gyda disgwyl i dros 150,000 o bobol ddod i’r ŵyl dros yr wythnos nesa’.
Dyw’r artistiaid a lleoliadau’r gigs ddim yn cael eu datgelu tan ddiwrnod y digwyddiad, ac mae’n rhaid i bobol anfon neges destun i SHWSH neu ddilyn yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn derbyn cliwiau.
“Ychydig o reolau”
“Mae gan y tîm SHWSH ychydig o reolau,” meddai’r trefnwyr.
“Y rheol gyntaf yw gyrru neges destun yn dweud SHWSH i 60777 ac aros am gyfarwyddiadau pellach.
“Yr ail reol yw peidio dweud gair wrth neb. Dyna sut y gelli di fod ´na pan mae’r tiwns yn tanio am brofiad na fyddi di byth yn anghofio.”