Mae rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn wedi’i chyhoeddi, cyn y bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ddechrau Awst.
Bwriad y wobr yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei ryddhau yng Nghymru, ac mae cymysgedd eclectig o gynnyrch ac artistiaid wedi cyrraedd y rhestr fer. Y cyfnod dan sylw eleni oedd Mai 1, 2017 hyd at ddiwedd Ebrill 2018.
Bu rheithgor o unigolion sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth yn dewis a dethol eu hoff gynnyrch, gan bleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.
Bydd criw o feirniaid yn dod ynghyd yn ystod yr Eisteddfod eleni er mwyn dewis enillydd, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar y noson.
Y deg albwm ar y rhestr fer yw:
· Band Pres Llareggub – Llareggub
· Blodau Gwylltion – Llifo fel Oed
· Bob Delyn a’r Ebillion – Dal i ‘Redig Dipyn Bach
· Gai Toms – Gwalia
· Gwyneth Glyn – Tro
· Mellt – Mae’n Hawdd Pan ti’n Ifanc
· Mr Phormula – Llais
· Serol Serol
· Y Cledrau – Peiriant Ateb
· Yr Eira – Toddi
Bydd yr enillydd yn derbyn tlws wedi’i gomisiynu’r arbennig ar gyfer yr achlysur gan Ann Catrin Evans.