“Sbarduno mwy o ferched i greu cerddoriaeth” – dyna’r bwriad drwy gynnal gweithdai i fenywod rhwng 16 a 25 oed sy’n ymddiddori mewn miwsig.
Yn dilyn beirniadaeth dros y blynyddoedd fod diffyg merched ar lwyfannau gigs Maes B, mae’r Eisteddfod Genedlaethol a Chlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd yn gweithio gyda’i gilydd i geisio newid y drefn.
Fel rhan o brosiect ‘Merched Yn Neud Gwallt ei Gilydd Miwsig’, bydd un gweithdy yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ac un arall yng Nghaernarfon, i helpu merched 16-25 oed sy’n ystyried mentro i’r sin gerddorol.
“Does dim lot o fenywod neu ferched mewn lot o wyliau a lot o gigs yng Nghymru ar hyn o bryd, dyw hwn ddim yn broblem jyst ar gyfer Cymru, mae hwn yn broblem mewn lot o wyliau mawr y Deyrnas Unedig,” meddai un o’r trefnwyr, Elan Evans, DJ sy’n trefnu gigs gyda Clwb Ifor Bach.
“Mae cymaint o bobol yn ysgrifennu ac yn cwyno amdano fe, wel yn lle jyst cwyno roedden ni’n awyddus iawn i actually gwneud rhywbeth amdano fe.
“Fi’n gobeithio gwneith e sbarduno mwy o bobol i greu cerddoriaeth neu i drefnu mwy o gigs er mwyn cael mwy o lwyfan i ferched.”
“Gobeithio tyfu”
Bydd hyd at 50 o ferched yn cael mynd i’r ddau weithdy ym mis Mehefin, lle fydd Heledd Watkins o HMS Morris, Anya Bowcott sy’n DJ o’r gogledd ond bellach yn byw yn Glasgow ac Elin Meredydd, artist a pherfformwraig celf weledol, yn cynnig cyngor a hyfforddiant.
“Y gobaith yw gwerthu mas a chael cymaint o ferched ag ry’n ni’n gallu,” meddai Elan Evans, “a chreu rhyw fath o hwb a grŵp o ferched sy’n really ymddiddori mewn cerddoriaeth, sydd eisiau rhoi digwyddiadau ymlaen, sydd eisiau creu cerddoriaeth, sydd eisiau DJo a chymryd y sgiliau yma a mynd â fe ymhellach.
“Be’ ni’n really trio pusho yw bod e’n ddiwrnod i bawb, does dim rhaid bod ‘da chi unrhyw brofiad o recordio, o ganu, o greu cerddoriaeth neu gelf.
“Does dim angen dim profiad o gwbl. Mae e literally jyst yn ddiwrnod i chi ddod i ddysgu sgiliau newydd ac i gwrdd â merched eraill sydd i mewn i’r un pethau â chi.”
Y bwriad yw cynnal mwy o weithdai yn y dyfodol, meddai.
“So gobeithio bydd y gweithdai yma yn rhywbeth wneith dyfu a thyfu a’r gobaith yw mewn cwpl o flynyddoedd, byddwn ni ddim angen digwyddiadau fel hyn.”
Crefft perfformio
Bydd Elin Meredydd, un o’r tair bydd yn cynnig hyfforddiant yn y gweithdai, yn pwysleisio’r ochr o berfformio yn y sesiynau, agwedd sydd angen gwneud mwy ohono yn y sîn Gymraeg, meddai.
“Dw i’n meddwl bod o’n dod yn fwy ac yn fwy o thing rwan efo pobol sy’n gwneud miwsig bod o ddim jyst am wneud miwsig ond bod branding nhw yn rhan ohono fo hefyd.
“Dw i’n gwybod bod fi definitely’n mynd i fod yn trafod [albwm] Lemonade gan Beyoncé. Dw i’n meddwl bod hwnna’n esiampl really da o sut i beidio jyst gwneud miwsig, ti’n gwneud bob dim arall hefyd efo fo.
“Os wyt ti’n rhoi cerddoriaeth at ei gilydd bod ti’n rhoi stori, bod ti’n darganfod pwy wyt ti a sut fath o berson wyt ti pan wyt ti’n creu’r miwsig yna.
“Mae gennyf i ffrindiau sy’n ferched sy’n gwneud miwsig, mae beth maen nhw’n gwisgo ar lwyfan neu sut fath o sioe maen nhw’n rhoi o ran y goleuadau, bod yna ddrama i’r ffordd maen nhw’n symud ar y llwyfan i gyd yn rhywbeth maen nhw’n meddwl amdano fo, nid jyst y caneuon.
“Dw i’n meddwl ‘ella bod hynny’n rhywbeth sydd angen cael ei wneud mwy yn y sîn Gymraeg anyway.”
Bydd y gweithdy cyntaf yn cael ei gynnal yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, ddydd Sadwrn 9 Mehefin, 10:00-17:00, a’r ail yn Galeri, Caernarfon, ddydd Sadwrn 23 Mehefin, 10:00-17:00.
Pris tocyn yw £5, sy’n cynnwys cinio a gweithdai. Tocynnau ar gael o clwb.net / galericaernarfon.com.