“Chwerthinllyd” – dyna yw disgrifiad actores brofiadol o’r penderfyniad i gastio Cymraes ddi-Gymraeg ar gyfer y brif ran yn un o ddramâu S4C.
Un Bore Mercher yw’r ddrama dan sylw, a daw’r feirniadaeth oddi wrth Sharon Morgan – actores sydd wedi beirniadu diffyg Cymraeg yn y diwydiannau creadigol yn y gorffennol.
Fe gafodd Un Bore Mercher ei ffilmio yn Gymraeg a Saesneg, a’i darlledu ar S4C a BBC Cymru.
Yn ogystal â beirniadu’r penderfyniad i ddewis Eve Myles yn brif actores ar y ddrama honno, mae Sharon Morgan wedi beirniadu Craith, sef rhaglen arall a gafodd ei ffilmio gefn wrth gefn yn y ddwy iaith.
“Diffyg parch”
“Gwelon ni’r sefyllfa chwerthinllyd yn Un Bore Mercher ble roedd y brif actores hyd yn oed ddim yn siarad Cymraeg,” meddai.
“Mae Craith hefyd yn enghraifft o ddiffyg parch at y Gymraeg sy’n anwybyddu natur dafodieithol y Gymraeg.
“Mae’r dramâu yma’n cael eu castio gan Saeson o Lundain sy’n parchu actorion sy’n enwog yn Lloegr, ac yn anwybyddu llawer o’n hactorion gorau ni.”
Tystiolaeth
Daw sylwadau Sharon Morgan o dystiolaeth ysgrifenedig a gafodd ei gyflwyno i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, sy’n ymchwilio i gynyrchiadau ffilm a theledu yng Nghymru.
S4C yn amddiffyn
Meddai llefarydd ar ran S4C:
“Mae S4C yn falch iawn o roi llwyfan i grefft actorion Cymraeg yn ein dramâu.
“Mae hynny yn cynnwys y cyfresi llwyddiannus diweddar, Un Bore Mercher, Craith a Bang. Hefyd Parch, Byw Celwydd, 35 Diwrnod, Y Gwyll a Gwaith Cartref i enwi dim ond rhai, yn ogystal â’r sebonau wythnosol Rownd a Rownd a Pobol y Cwm sydd gyda’i gilydd yn cynnwys cast eang a chyfoethog o actorion profiadol a newydd.
“Maen nhw’n ddramâu llwyddiannus sy’n apelio at gynulleidfa eang ac mae’r ymateb yn ddyddiol a misol gan wylwyr yn destun balchder mawr i ni.
“Mae hyn yn ogystal â’r gydnabyddiaeth y maent yn ei dderbyn gan y diwydiant drwy ennill enwebiadau a gwobrau anrhydeddus yn rheolaidd.
“Mae cyd-gynhyrchu yn fodel llwyddiannus i ni, sy’n gallu ychwanegu gwerth a chreu cyllidebau mwy ar gyfer rhaglenni uchelgeisiol i wylwyr yn yr iaith Gymraeg, heb gyfaddawdu ar safon.
“Rydym yn falch iawn o gyd-weithio gyda phartneriaid cynhyrchu a dosbarthu er mwyn creu dramâu rhagorol sydd at fodd ein gwylwyr craidd ac sy’n apelio at gynulleidfa ehangach yr un pryd, gan ymestyn y gwaith ar lwyfan rhyngwladol.”