Mae’r Manic Street Preachers wedi defnyddio’r Gymraeg mewn cân newydd sbon sydd wedi’i rhyddhau heddiw.
Yn fideo’r gân ‘Distant Colours’, mae’r actores o Gaerdydd, Elan Evans, yn dechrau adrodd geiriau R S Thomas, sydd wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg, gyda’r geiriau gwreiddiol Saesneg i’w gweld yn is-deitlau ar y sgrin.
Mae’r grŵp o’r Coed Duon hefyd wedi cynnwys cyfres o gerfluniau a chofebau – yn cynnwys wal ‘Cofiwch Dryweryn’ yn Llanrhystud – er mwyn dangos digwyddiadau pwysig yn hanes Cymru.
Dyma drydydd fideo’r Manics i Elan Evans, 24, sydd hefyd yn gynorthwy-ydd marchnata yng Nghlwb Ifor Bach, i gymryd rhan ynddo a dywed wrth golwg360 ei bod wedi recordio’r geiriau ym mwth lluniau [photo booth] enwog y clwb.
Y cyfarwyddwr o Dŷ Ddewi, Kieran Evans, sydd wedi cyfarwyddo llawer o fideos y band, wnaeth ofyn i Elan Evans fod yn rhan o’r fideo diweddaraf yma.
“Mae Kieran yn ffrindiau really da gyda fy wncwl i, Huw [Stephens], felly mae e jyst wedi dod o fan ‘na really,” meddai Elan Evans wrth golwg360.
“Mae e’n rhywbeth cŵl i ddweud, bod fi mewn fideo’r Manic Street Preachers, dyna i gyd yw e.”
Y Manics – “bois neis a gwladgarol”
“… Wnes i gwrdd â nhw [y band] yn y fideo cyntaf wnes i gyda nhw, maen nhw’n fois really neis chwarae teg a beth sy’n cŵl yw bod nhw’n gwahodd lot o bobol sydd yn y fideos i fynd i sioeau nhw, sy’n really neis achos ti’n teimlo fel bod ti’n rhan o rywbeth wedyn.
“Ti’n watshio nhw mewn gigs ac maen nhw mor wladgarol, maen nhw’n caru Cymru cymaint, mae’n eitha’ neis bod nhw yn y fideos yma yn dangos hwnna…
“Mae Kieran yn really glyfar, sut mae e’n dal y foment yna o’r syniadau sydd gyda nhw ond mewn ffordd sydd ddim yn cheesy, achos mae miwsig yn gallu dod ar draws mewn ffordd mor cheesy pan ti’n trio adrodd stori ond mae e’n gwneud e mewn ffordd really subtle, cynnil iawn dw i’n meddwl.
“… Mae e wastad yn exciting gweithio gyda nhw, achos ti ddim yn gwybod pa syniad sydd gyda nhw.”
Y fideo
Yn y fideo newydd, mae’r actores, Sarah Sayuri, oedd yn y fideo ‘International Blue’, yn cael ei gweld ar dirluniau gwahanol ledled Cymru.
Yn ogystal ag wal enwog Cofiwch Dryweryn, mae’r cofebion eraill yn y fideo yn cynnwys cerflun Llywelyn ein Llyw Olaf ger Llanymddyfri a chofeb i Aneurin Bevan ger Glyn Ebwy.
Bydd y gân Distant Colours ar albwm newydd y grŵp, Resistance is Futile, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill.
Mae disgwyl i’r Manic Street Preachers fynd ar daith trwy Cymru a gweddill gwledydd Prydain dros y misoedd nesaf.