Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddrymiwr y band roc Yucatan, yn dilyn adroddiadau bod ei gorff wedi cael ei ddarganfod ar fynydd Tryfan yn Eryri.
Mae Iwan Huws, oedd yn byw yn Rhosgadfan ond wedi’i fagu ym mhentref Llanllyfni, wedi’i ddisgrifio fel cerddwr profiadol, ond wnaeth e ddim dychwelyd adref ar ôl bod yn cerdded ar y mynydd ac fe fu mwy na 40 o bobol o dimau achub mynydd allan yn chwilio amdano.
Mae adroddiadau mai corff Iwan Huws gafodd ei ddarganfod, ond dydi’r corff ddim wedi’i adnabod yn ffurfiol eto.
Mae ymchwiliad ar y gweill.
Teyrngedau ar Twitter
Ymhlith y rhai sydd wedi rhoi teyrnged i Iwan Huws ar wefan gymdeithasol Twitter mae clybiau pêl-droed ei ddyffryn genedigol.
Dywed Clwb Pêl-droed Talysarn: “Hoffai’r clwb gydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Iwan Huws. Pleser oedd cael rhannu ystafell newid gyda Iwan fel y gwnaeth llawer un yn y dyffryn. Diolch am dy gwmni.”
Dywed Clwb Pêl-droed Llanllyfni: “Hoffai CPD Llanllyfni gynnig ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Iwan Huws, Clogwyn Melyn ar eu colled aruthrol. Roedd Iw yn aelod o dîm arbennig tymor 1af Llan – ac mor onest ar y cae chwarae ag ’oedd oddi arno. Amseroedd da.”
Fe fu band Yucatan yn perfformio droeon yng Ngŵyl Rhif 6, ac fe ddywedodd y trefnwyr: “Rydym yn wirioneddol drist o glywed am golli’r drymiwr Iwan Huws o @Yucatanambyth, y cawson ni’r pleser o’i groesawu i Rif 6 nifer o weithiau. Anfonwn ein meddyliau at deulu a ffrindiau Iwan.”