Mae llyfr Harry Potter gwerth £40,000 ymhlith y llyfrau prin sydd wedi cael eu dwyn o siop lyfrau yn Lloegr.

Cafodd y copi argraffiad cyntaf o Harry Potter And the Philosopher Stone gan J K Rowling ei ddwyn gan ladron o siop lyfrau yn Thetford, Swydd Norfolk yr wythnos ddiwethaf.

Fe gafodd copi argraffiad cyntaf gwerth £7,000 o The Hobbit gan J R R Tolkein, a chopi wedi’i arwyddo o The Brief History of Time gan Stephen Hawking eu dwyn hefyd.

Mae Heddlu Norfolk wedi dweud bod lladron wedi cael mynediad i’r siop rhywbryd rhwng 11:40yh Ionawr 8 a 1:30yb Ionawr 9.

“Mae’r rhain yn llyfrau prin iawn ac, mewn rhai achosion, yn unigryw ac yn ddim yn rhywbeth rydych chi’n ei weld yn aml,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Rydan ni’n annog pobol, yn enwedig llyfrwerthwyr a’r rheiny sy’n gweithio mewn siopau llyfrau arbenigol, i fod yn wyliadwrus rhag ofn y byddan nhw’n cael eu gwerthu.”