Mae Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru yn cynghori perfformwyr i beidio â chymryd Gwobrau Theatr Cymru 2018 ormod o ddifrif.
Bydd seremoni’r Gwobrau 2018 yn cael ei chynnal yng nghanolfan Glanyrafon, Casnewydd ar Ionawr 27 ac mae cynyrchiadau’r Theatr Genedlaethol wedi cael dros 15 o enwebiadau.
Mae Hollti wedi cael ei henwebu am bump; Macbeth am chwech; Estron am un; ac opera Y Tŵr, cyd-gynhyrchiad y cwmni gyda Music Theatre Wales, hefyd am bump.
Serch hynny, mae yna fylchau amlwg ymhlith actorion amlycaf dau brif gynhyrchiad y Theatr Genedlaethol y llynedd. Dyw Llion Williams ddim wedi cael ei enwebu am actio’r Brenin Duncan yn Macbeth, na Gwyn Vaughan Jones am ran y penteulu yn Hollti.
Natur gwobrau
“Mae’n rhaid cydnabod bod yna nifer o bobol dw i’n llawn edmygedd ohonyn nhw sydd ddim wedi cael eu henwebu,” meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni. “Ond dyna natur gwobrau fel hyn. Mae rhai pethau yn cael eu henwebu ac eraill ddim.
“Dw i’n ddiolchgar iawn am gyfraniad ac am ymroddiad a gwaith caled pawb sydd wedi gweithio i’r cwmni – nid yn unig i’r cwmni hwn, ond ar draws y sector Gymraeg.
“Dydi theatr ddim yn digwydd oni bai am gariad a chwys a gwaed, yn aml iawn. Felly mae hi’n biti bod ymdrech pawb ddim wedi cael eu cynnwys.
“Fel ag unrhyw wobrau fel hyn, mater o farn ydi o,” meddai wedyn. “Panel cymharol fychan o feirniaid sy’n dewis, a tydi’r farn o reidrwydd ddim yn gynrychioliadol bob amser. Rydan ni’n cydnabod hynny wrth gwrs, rydan ni fel artistiaid yn bobol sensitif, ac yn mwynhau dathlu pan fyddan ni’n ennill ond yn teimlo’r boen pan dydan ni ddim.
“Fy nghyngor i ibob artist fyddai cymryd yr holl beth gyda phinsiad go helaeth o halen.”
Yn y ras…
Y dynion sydd yn y ras am y Perfformiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg – Gwryw yw Richard Lynch a Gareth John Bale (ill dau am Macbeth), Sion Pritchard (Hollti), Rhodri Miles (Sieiloc), a Rhodri Evan (Yfory, Bara Caws). Dyw actor y brif ran yn Yfory, Dewi Rhys Williams, ddim wedi cael ei enwebu.
Yn y ras am y wobr am y Perfformiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg – Menyw, mae Ffion Dafis (Macbeth), Siw Hughes (Hollti), Caryl Hughes (Y Tŵr), Lisa Jên Brown (Gair o Gariad, Bara Caws) a Caryl Morgan (Yfory).
Dyw opera fawreddog newydd Gareth Glyn a Mererid Hopwood, Wythnos yng Nghymru Fydd. ddim yn y ras am y Cynhyrchiad Opera Gorau er ei bod hi wedi ei henwebu am y Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg, wrth ochr Macbeth (Theatr Genedlaethol), Yfory (Bara Caws), Y Tŵr (Music Theatre Wales/Theatr Genedlaethol Cymru.
Er bod y tenor Robin Lyn Evans wedi ei enwebu am y Perfformiad Gorau mewn Cynhyrchiad Opera (Gwryw) am actio rhan Ifan yn Wythnos yng Nghymru Fydd, dyw ei gyd-gantor yn y cynhyrchiad, Gwawr Edwards, ddim yn y ras.
Mae Caryl Hughes wedi’i henwebu am y Perfformiad Gorau mewn Cynhyrchiad Opera – Menyw am ei rhan yn Y Tŵr a bydd yn cystadlu yn erbyn cantorion mewn operâu mewn ieithoedd eraill, sef Caitin Hulcup, Natalya Romaniw, Rebecca Evans ac Amanda Forbes.
Mae Bara Caws wedi cael saith enwebiad: Dylunio/Gwisgoedd Gorau (Lois Prys, Yfory), Cynhyrchiad Gorau Cymraeg, Perfformiadau Gorau (Rhodri Evan a Caryl Morgan, Yfory), Dramodydd Gorau (Sion Eirian, Yfory), Cynhyrchiad Teithiol Gorau – Cymraeg (Yfory) a Perfformiad Gorau – Merch (Lisa Jên Brown, Gair o Gariad).
Cafodd Mwgsi gan Gwmni’r Frân Wen ddau enwebiad – y Sioe Orau ar gyfer Plant a Phobol Ifanc, a’r Dramodydd Gorau (Manon Steffan Ros).
Mae’r actor Rhodri Miles wedi ei enwebu ddwywaith am ei sioe un-dyn Sieiloc – am y Perfformiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg – Gwryw, a’r Cynhyrchiad Teithiol Gorau.
Mae rhestr lawn yr enwebiadau ar wefan Art Scene in Wales.