Ag ymgyrch Brwydr y Bandiau 2017 bellach wedi’i lawnsio, mae un o feirniad eleni wedi datgelu’r hyn sydd angen ar fand er mwyn serennu.
Bydd Lewis Wyn (prif leisydd Yr Eira) yn ymuno â Katie Hall (prif leisydd Chroma) a Steffan Dafydd (Breichiau Hir) wrth geisio dewis band buddugol Cymru eleni.
Iddo ef mae angen band sy’n ddelfrydol yn medru cynnig rhywbeth “hollol newydd” ond yn bennaf mae am weld band sydd “ddim yn ofni trio”.
“Yn amlwg rydym ni’n chwilio am rhywbeth sy’n wahanol – sy’n cynnig rhywbeth hollol newydd i’r sîn yma yng Nghymru,” meddai Lewis Wyn wrth golwg360.
“Ond, dw i ddim yn credu bod rhaid rhoi gormod o bwyslais ar yr elfen wahanol yma chwaith. Jest bod y bandiau yn medru dangos eu bod yn gallu creu cân, dangos potensial, dangos bod gennyn nhw hyder i fynd ar lwyfan, dangos bod nhw ddim yn ofn trio.
“Dw i’n meddwl mai dyna’r elfennau mwyaf pwysig i ddweud y gwir.”
Rowndiau
Gan ddilyn fformat brwydr y bandiau llynedd, bydd rowndiau cynderfynol yn cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod y gwanwyn gyda’r rownd derfynol yn cael ei gynnal ar Awst 8.
Mae Lewis Wyn yn edrych ymlaen at y rowndiau, ac at gael cyfle i ddod i nabod ei gyd-feriniaid.
“Dw i’n edrych ymlaen [at y rowndiau] i ddweud y gwir,” meddai. “Ac at ddod i nabod Katie a Steff ychydig yn well. Dw i’n edrych ymlaen i weld sut fydd ein chwaeth cerddorol yn gwahaniaethu neu’n cymharu.
“Mae Katie a Steff yn cynrychioli’r ochr fwy trwm, ond mae’n dda bod gyda ni’r balans yna. Efallai dw i yn berson sy’n bach fwy poppy. Maen nhw’n dod a rhywbeth ychydig yn fwy amgen iddi.
“A dw i’n credu bod hi’n bwysig cael yr amrywiaeth yma mewn chwaeth gerddorol er mwyn gweld be yn union rydan ni isio o ran y bandiau.”
Manylion
Dyddiad cau ceisiadau i gymryd rhan yw Chwefror 16, ac mae modd anfon cais trwy wefan Maes B.
Bydd y band buddugol yn cael eu gwahodd i berfformio set ym Maes B, yn cyfle i berfformio sesiwn ar Radio Cymru ac yn cael eu ffilmio ar gyfer rhaglen Ochr 1.
Byddan nhw hefyd yn cael eu cynnwys yng nghylchgrawn Y Selar ac yn derbyn gwobr ariannol o £1,000.