Bydd y darlledwr Dewi Llwyd yn lansio ei lyfr Pawb a’i Farn – Dyddiadur Dewi Llwyd ym Mangor heno.

Mae’r llyfr yn canolbwyntio’n bennaf ar y flwyddyn wleidyddol gythryblus a fu, a hefyd yn adrodd hanes gyrfa’r darlledwr dros bedwar degawd.

Yn ogystal â straeon gwleidyddol dwys, mae’r llyfr yn cynnwys straeon am helyntion Dewi Llwyd wrth gyflwyno’r rhaglen Pawb a’i Farn.

Felix Aubel

Un stori sy’n cael ei chynnwys yn y llyfr yw hanes rhaglen adeg y refferendwm Ewropeaidd llynedd pan fu aelodau panel a chyfranwyr yn ffraeo.

“Roeddwn i’n bryderus nad oedd gennym swyddogion diogelwch,” meddai Dewi Llwyd yn ei lyfr.

“Yn dilyn y rhaglen cefais ddau lythyr dienw yn dweud y dylid gwahardd Felix Aubel rhag ymddangos ar Pawb a’i Farn ac efallai y dylid cael cadeirydd newydd.

“Ond gwahanol iawn oedd barn rhywun arall a ddaeth ata i. Meddai, ‘Mae angen mwy o bobol fel Felix arnoch chi. Gormod o ‘Yes men’ ar y paneli ’ma!’”

Hefyd yn y llyfr mae Dewi Llwyd yn dwyn i gof gorfod ymdopi gyda dynes feddw yn y gynulleidfa adeg ymweliad Pawb a’i Farn â Blaenau Ffestiniog.

Manylion

Bydd y llyfr yn cael ei lansio yn Neuadd Hugh Owen, Canolfan Reolaeth Prifysgol Bangor, ac yn dechrau am saith yr hwyr.

Y Cynhyrchydd, Marian Ifans; y cerddor, Delwyn Siôn; a’r Cyflwynydd, Dylan Jones; fydd y gwesteion.