Bu farw Johnny Hallyday, seren bop fwya’ Ffrainc am dros hanner canrif. Roedd yn 74 oed.
Fe ddaeth y cyhoeddiad mewn datganiad gan yr arlywydd Emmanuel Macron, a oedd yn gyfaill i’r canwr. Yn y datganiad, dywed fod Johnny Hallyday “wedi dod â rhan o America i mewn i bantheon cenedlaethol Ffrainc”.
Mae adroddiadau ar y cyfryngau yn dweud i’r cerddor farw yn ei gartref ger Paris, lle mae dilynwyr bellach yn heidio yn eu miloedd.
Roedd Johnny Hallyday wedi bod yn brwydro canser yr ysgyfaint dros y blynyddoedd diwethaf. Fe dreuliodd gyfnod eleni yn yr ysbyty, ond roedd wedi perfformio am y tro olaf dros yr haf.
Mewn neges ar wefan gymdeithasol Trydar, meddai’r actores, Brigitte Bardot: “Mae Johnny yn gawr. Ef yw Ffrainc!”
Mae nifer o wleidyddion amlwg Ffrainc – ar y chwith ac ar y dde – wedi bod yn talu teyrnged i ‘Johnny’.