Dau beth sy’n agos at galon Trystan Llŷr Griffiths o Sir Benfro yw canu a chwaraeon, ac mae lle i uno’r ddau, meddai.
Mae’r tenor sy’n wreiddiol o Glunderwen newydd arwyddo cytundeb â label recordio Decca gan ddilyn yn ôl traed cantorion gan gynnwys Bryn Terfel a Katherine Jenkins.
A thros y penwythnos, mi gafodd y cyfle i ganu yn Stadiwm y Principality cyn gêm Cymru yn erbyn De Affrig.
“Dw i’n credu bod chwaraeon a cherddoriaeth yn mynd un yn un gyda’i gilydd,” meddai.
“Dw i’n credu ei fod e, mewn ffordd, yn uno’r gynulleidfa â’r chwaraewyr.”
Y corau a’r eisteddfodau…
Mae Trystan Llŷr Griffiths yn ychwanegu nad oedd wedi dychmygu dilyn gyrfa yn ganwr proffesiynol am mai gwaith coed a rygbi oedd yn mynd â’i fryd yn yr ysgol uwchradd, ac arferai chwarae’n flaenwr i glwb Hendy-gwyn ar Daf a chlwb rygbi Crymych.
Ond mae traddodiad yr eisteddfodau a’r corau yn gyfle i “bob un gael cyfle i ganu a chystadlu”, meddai.
Mae’n cydnabod cyfraniad ei deulu a’i athrawon canu wnaeth ei annog i astudio yn Academi Gerddoriaeth Frenhinol Llundain, Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Caerdydd ynghyd â hyfforddi yn Stiwdio Opera Genedlaethol Llundain.
Mae hefyd wedi ennill gwobrau Osborne Roberts a Towyn Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mi fydd yn rhyddhau ei albwm gyntaf gyda Decca y flwyddyn nesaf.