Mae enwau 34 o enillwyr gwobr gerddorol Gorwelion BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi’u cyhoeddi.
Fe fyddan nhw i gyd yn derbyn £2,000 yr un o’r Gronfa Lawnsio i ddatblygu eu gyrfaoedd a’u gwaith.
Cafodd yr enillwyr eu dewis gan arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth, ac fe ddaeth 175 o geisiadau i law eleni. Roedd yn agored i artistiaid a bandiau yng Nghymru sy’n ysgrifennu, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth boblogaidd gyfoes wreiddiol.
Ers eu sefydlu yn 2014, mae Gorwelion a’r Gronfa Lawnsio wedi dyfarnu arian i fwy na 135 o artistiaid o bob cwr o Gymru.
Enillwyr eleni
– Adwaith, Caerfyrddin, offer ac ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer albwm
– Beth Celyn, Caernarfon, piano llwyfan newydd
– Buzzard, Caerdydd, ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus digidol
– Cally Rhodes, Ceredigion, recordio gyda Rich James yn stiwdio Ferlas ym Mhenrhyndeudraeth
– Campfire Social, Llangollen, recordio yn Stiwdio Orange Sound, Penmaenmawr
– Codewalkers, Caerdydd, ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus gyda Lost Agency
– Dan Bettridge, Pen-y-bont ar Ogwr, ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer albwm cyntaf ac ymddangosiadau
– E.T.L.B, Sir y Fflint, amp gitâr a phedal dolen ar gyfer perfformiadau byw
– Eadyth, Merthyr Tudful, offer newydd, meddalwedd a rhyddhau albwm
– Esther, Caerdydd, fideo cerddoriaeth
– Farm Hand, Powys, fideo cerddoriaeth gyda Mark James
– Gallops, Wrecsam, offer i greu delweddau gweledol mewn perfformiadau byw
– Gravves, Glannau Dyfrdwy, fideos ac ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus
– Greta Isaac, y Bont-faen, ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus ar-lein a radio, a chymysgu albwm
– Griff Lynch, Gwynedd, amser stiwdio ar gyfer ail albwm
– HMS Morris, Caerdydd, ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer ail albwm
– Joel Avaient, y Barri, ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus gyda Lost Agency
– Junior Bill, Caerdydd, dau fideo cerddoriaeth
– Lemfreck, Casnewydd, casgliad o fideos cerddoriaeth
– Mace, Caerdydd, hysbysebu a fideo cerddoriaeth
– Names, Sir Gaerfyrddin, amser stiwdio yn StudiOwz, Hwlffordd a gwneud fideo cerddoriaeth
– Nia Wyn, Conwy, sengl i’w recordio yn stiwdio Paul Weller a fideo cerddoriaeth, ac ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus
– NoNameDisciple, Caerdydd, recordio EP
– Omaloma, Conwy, recordio a chymysgu albwm yn Stiwdio Glanllyn
– Public Order, Merthyr Tudful, lle ymarfer, recordio, llunio traciau meistr a dosbarthu
– Rainbow Maniac, Caerdydd, recordio a llunio traciau meistr, ac ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus
– Regime, Sir Benfro, recordio cyngerdd yn Neuadd y Frenhines, Arberth, yn fyw
– Reuel Elijah, Caerdydd, gwneud fideo cerddoriaeth
– Seazoo, Wrecsam, recordio ail albwm yn Stiwdio Big Jelly yn Ramsgate a llunio traciau meistr yn Stiwidio Hafod yn y Bont-faen
– Serol Serol, Conwy, allweddellau a chas caled
– Siddi, Gwynedd, recordio albwm yn Stiwdio Drwm
– Sonny Double 1, Caerdydd, fideo cerddoriaeth, gwasgu a dosbarthu albwm
– We’re No Heroes, Caerdydd, sengl newydd – recordio yn StiwdiOwz, cymysgu yn Rat Trap a thraciau meistr yn Stiwdio Hafod
– Written In Kings, Pen-y-bont ar Ogwr, recordio dwy sengl gyda Romesh Dodangoda, ynghyd â chymysgu a thraciau meistr