Sen Segur - bydd y grŵp ifanc o Benmachno ar lwyfan Gŵyl Gwydir eleni
Mae gŵyl gerddorol fwyaf Dyffryn Conwy, Gŵyl Gwydir, wedi cyhoeddi’r arlwy fydd ar gynnig ym mis Medi eleni.

Fe fydd yr ŵyl yn digwydd am y drydedd flwyddyn yn olynol ar benwythnos 9-10 Medi, ond bydd lleoliad newydd a llawer mwy o artistiaid yn perfformio eleni.

Mae’r trefnwyr wedi penderfynu ei bod yn bryd i’r ŵyl dyfu, ac o’r herwydd yn bwriadu defnyddio Clwb Rygbi Nant Conwy ar gyrion Llanrwst fel lleoliad newydd.

Mae’r lleoliad newydd yn golygu bod modd rhedeg dau lwyfan gefn wrth gefn, gydag un llwyfan awyr agored ar ddydd Sadwrn yr ŵyl.

Nos Wener eclectig

“Mae’r penwythnos yn dechrau ar nos Wener 9 Medi, a hynny gyda dau o fandiau gorau Cymru, y band syrff sy’n ffres o daith gyda Gruff Rhys, Y Niwl, a’r band poblogaidd Cowbois Rhos Botwnnog,” meddai’r trefnydd, Gwion Schiavone.

Fe fydd y cerddor lleol Dan Amor hefyd ar y llwyfan ar y nos Wener, ynghyd â’r ddeuawd o Sir Gaerfyrddin, Trwbador.

Cerddoriaeth trwy’r dydd

Bydd ail lwyfan a gweithgareddau eraill yn cael eu cyflwyno ar y dydd Sadwrn o hanner dydd ymlaen.

“Ar ôl noson eclectig i gynhesu’r dorf, bydd yr ŵyl yn codi gêr am hanner dydd ddydd Sadwrn gyda dau lwyfan, un awyr agored ac un o fewn bar y clwb, bydd dros 14 o fandiau yn diddanu.”

Ymysg y perfformwyr fydd enwau mawr fel Sibrydion, Yr Ods a Colorama, ynghyd â’r grŵp lleol Sen Segur a llu o artistiaid eraill (rhestr lawn isod).

Mae’r lleoliad newydd hefyd yn cynnig cyfle i gyflwyno gweithgareddau amrywiol i’r ŵyl a bydd y rhain yn cynnwys DJs, pentref bwyd, pentref plant, pabell arlunio, a stondinau celf a chrefft.
 
Gigs cynhesu penwythnos yma

I gyd fynd â chyhoeddi’r arlwy mae’r trefnwyr yn cynnal dau gig showcase y penwythnos hwn – un yn Nhrefriw ger Llanrwst a’r llall ym Mhorthmadog.

Bydd Race Horses, Jen Jeniro ac Y Bandana yn chwarae yn y Fairy Falls, Trefriw nos Wener 12 Awst, tra bod Mr Huw a Sen Segur yn cymryd lle Y Bandana yng Nghlwb Chwaraeon Madog nos Sadwrn 13 Awst.

“Bwriad y gigs yma ydy hyrwyddo’r ŵyl a rhoi cyfle i bobl glywed rhai o’r bandiau sy’n perfformio,” meddai Gwion Schiavone.

Mae manylion llawn ar wefan yr ŵyl – www.gwylgwydir.com
 
Rhestr lawn perfformwyr Gŵyl Gwydir 2011
 
Nos Wener 9 Medi
Y Niwl
Cowbois Rhos Botwnnog
Dan Amor
Trwbador
 
Sadwrn 10 Medi
Sibrydion
Yr Ods
Llwybr Llaethog
Jen Jeniro
Colorama
The Keys
Plant Duw
Land Of Bingo
Mr Huw
Yucatan
Houdini Dax
Sen Segur
Tim Ten Yen
Alun Gaffey