Dyma’r olaf o’n cyfres o ddyfyniadau o Mâs o Mâ – hunangofiant Meic Stevens. Yn 2008 dyma Meic yn derbyn galwad gan hen ffrind…
Yn 1961 gadewais Goleg Celf Caerdydd, yn benderfynol o fod yn artist enwog ond ro’n i’n byw fel llygoden eglwys rhwng y jiawl (jazz a chanu’r felan) a’i gynffon (celf).
Yn fy nychymyg, roedd fy mreuddwyd rywle rhwng Provence a Tahiti. Ond mewn realiti, rhywle rhwng Solfach, Caerdydd, Paris a Barcelona.
Fodd bynnag, roedd sawl agwedd ar realaeth yn nofio yn fy mhen fel pysgod aur mewn powlen, yn ddi-ddal, yn fyrhoedlog ac yn anweladwy. Byddwn i’n potsian, yn peintio, yn braslunio neu’n sgrifennu llythyre at ferched ro’n i’n meddwl mod i mewn cariad â nhw.
Cawn ddarn comisiwn bob hyn a hyn, peintio porthladd Solfach neu Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Olew y byddwn yn ei ddefnyddio bryd ’ny a dwi’n cofio gwneud tirlun mawr o Fae Santes Non i ferch i swyddog yn yr RAF – roedd e’n un da hefyd.
Roedd bodio yn ddifyrrwch arall, rhwng swyddi labro tymhorol ar ffermydd lleol – tatws, ŷd, lladd gwair – a rhywfaint o beintio drysau a sièds a iete.
Arian poced oedd hyn i gyd. Ro’n i’n dal i alw heibio hen lefydd myfyrwyr Caerdydd, clybie jazz Llunden, caffis gwerin Paris, Antwerp ac weithie Rotterdam. Doedd gen i ddim llefeleth i ble ro’n i’n mynd na beth fydde’n digwydd nesa, a doedd dim ots ’da fi.
Roedd yn gyfnod od: mynd gyda’r lli o un lle i’r llall heb fecso am ddim a heb gyfrifoldeb yn y byd. Bydde gourmet yn taflu’r bwyd ro’n i’n ei fwyta i’w gi. Dwi’n cofio meddwl bod tships a saws cyrri a rôl caws a winwns yn fwyd pum seren, ac i helpu’r bwyd i lawr y lôn goch roedd Scrumpy, seidr drafft garw am swllt y peint.
Byddai’n ein meddwi ni’n braf. Roedd cwrw chwerw rhad hefyd yn boblogaidd gan y criw jazz. Ro’n i’n synnu bod merched pert yn fodlon ’y nghusanu i, heb sôn am gysgu gyda fi – creadur oedd yn byw fel yr arch-drampyn Johnny Walker.
Ro’n i’n casáu cael bath – unweth y mis, os ’ny – a phan fyddwn i’n newid fy socs, hefyd unweth y mis, byddwn i’n taflu’r hen rai yn y bin.
A mlân â fi ar drywydd celfyddyd a chreadigrwydd, ddydd ar ôl dydd heb fecso taten am y dyfodol, a fydde’n dod ar fy nhraws i ta beth.
Yn 2008 canodd fy ffôn fach a gofynnodd llais dieithr ai fi oedd yno.
“Ie, pwy sy ’na?”
“Liz Sheehan sy ’ma.”
Ro’n i wedi colli’r ferch annwyl honno yn 1962 pan ymfudodd ei theulu i Ganada. Yno roedd hi ers ’ny, wedi priodi, geni dwy ferch, ysgaru, wedyn byw gyda boi arall am ugain mlynedd. Roedd hi’n dal i fyw yn yr un tŷ ers deng mlynedd ar hugain.
Rheoli gwersylloedd coedwigo fu’r ddau yn yr anialdir ac ynysoedd St Charlotte. Elizabeth oedd yr unig fenyw a gyrhaeddodd swydd mor uchel yn hanes coedwigo yng Nghanada.
Brodor o Benarth oedd hi’n wreiddiol. Trefnon ni i gyfarfod mewn tŷ bwyta yn yr hen adeilad tollau sydd wedi’i ailwampio ar hen ddoc Penarth. Ro’n i braidd yn bell fy meddwl, a llawer o helyntion yn digwydd ar yr aelwyd ar y pryd.
Roedd hi’n gwisgo ffrog fach ddu, ac yn hawdd ei nabod yn syth. Safodd amser yn llonydd, un o’r munude annaearol hynny sy’n llawn déjà vu ac ysbrydion glân.
Arhosodd Elizabeth am sbel. Aethon ni i Shir Benfro gyda’n gilydd, i regatta Solfach, cael hwyl, hel atgofion; roedd hi’n troi yn ei hunfan, a finne hefyd.
Weithie bydda i’n llithro i ryw gyflwr lled-ymwybodol, fel petai rhan ohona i wedi diffodd. Mae’n teimlo fel bod yn chwil ond dim byd tebyg i fod yn feddw! “Mae rhywbeth yn digwydd fan hyn!”
Mae ‘Mâs o Mâ’ yn cael ei lansio yn mhabell Y Lolfa ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam am 2pm ddydd Iau nesaf, 4 Awst. Gallwch brynu’r gyfrol o wefan Y Lolfa.