Bydd Geraint Jarman yn nhre’ Caernarfon heno i ddathlu cyhoeddi ei hunangofiant, Twrw Jarman.

Mae’r canwr-gyfansoddwr yn cael ei adnabod fel un o hoelion wyth y Sîn Roc Gymraeg, ac mae newydd ryddhau albym newydd – Brecwast Astronot – ac yntau bellach wrthi’n canu’n Gymraeg ers y 1960au.

Bydd yn trafod ei lyfr, ei gerddoriaeth a’i fywyd yn siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon heno am hanner awr wedi chwech.