Clawr y sengl newydd
Mae’r Creision Hud wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Cysgod y Cyrion’,  i’w lawrlwytho ar Itunes heddiw.

 Mae’r grŵp addawol o Gaernarfon bellach dros hanner ffordd trwy eu prosiect gwreiddiol ac uchelgeisiol i ryddhau sengl newydd bob mis yn 2011.

 Sŵn tywyllach

 Ym mis Mai fe ryddhawyd y gân fachog a hafaidd ‘Indigo’, sydd wedi profi’n boblogaidd iawn ar y tonfeddi ac mewn gigs byw.

 Er hynny, mae’r Creision wedi penderfynu mynd ar drywydd sŵn ychydig yn wahanol gyda ‘Cysgod y Cyrion’.

 “Ar ôl rhyddhau ‘Indigo’, roedden ni’n teimlo bod ni angen sŵn ychydig yn dywyllach er mwyn cael cyferbyniad,” eglurodd prif ganwr Creision Hud, Rhydian Lewis wrth Golwg360.

 “Felly, efo ‘Cysgod y Cyrion’, y bwriad oedd creu cân efo mwy o agwedd iddi, a dw i’n meddwl fod y geiria’ yn cyfleu ein teimladau ni fel band wrth drio cael cydnabyddiaeth.

 “Mae’r cordiau offbeat minor a’r eight bar canol lleisiol yn cyfleu’r agwedd a’r teimlad tywyllach, caletach yn ein barn ni.”

 Seithfed nef

 Er bod geiriau’r gân yn awgrymu bod y grŵp yn teimlo eu bod ar gyrion i sîn, maen nhw wedi bod yn ganolog ac yn amlwg iawn yn ddiweddar.

 Mae digon o grwpiau’n gyfarwydd â rhyddhau 12 o ganeuon ar unwaith ar ffurf albwm, ond mae’r cysyniad o ryddhau 12 sengl dros 12 mis yn un newydd i’r sîn Gymraeg.

Yn ôl Rhydian Lewis mae’r prosiect wedi golygu eu bod nhw wedi cael sylw cyson i’w cynnyrch dros y misoedd diwethaf.

 “Mae rhyddhau sengl bob mis wedi gweithio yn syndod o dda eleni,” meddai.

 “Mae o wedi’n galluogi ni i aros yn llygad y cyhoedd yn gyson, ac o ganlyniad, ryda ni wedi creu fan-base newydd.”

Teithio Cymru

 Mae’r Creision Hud ar daith gyda Sen Segur a Trwbador ar hyn o bryd, ac fe fydd gigs olaf ‘Slot Selar’ ym Mangor nos fory a Llanrwst nos Sadwrn.

 “Ryda ni wrth ein boddau yn cael gwneud taith ‘Slot Selar’, achos dydyn ni erioed wedi cael y cyfle i wneud unrhyw beth tebyg o’r blaen,” meddai’r canwr.

“Mae’r cynulleidfaoedd wedi bod yn gefnogol iawn, ac mae cael chwarae efo Sen Segur a Trwbador wedi bod yn brofiad grêt.”

Mae modd gwrando ar y sengl newydd ar wefan Soundcloud Creision Hud, ac mae modd ei phrynu ar Itunes o heddiw ymlaen.

‘Pyramid’ fydd enw wythfed sengl Creision Hud eleni, ac fe fydd honno allan cyn diwedd mis Gorffennaf.