Huw Stephens
Wedi pum mlynedd o ymsefydlu a thyfu yng Nghaerdydd, mae trefnwyr Sŵn wedi penderfynu ei bod hi’n bryd ychwanegu diwrnod arall i’r ŵyl gerddorol.

Hyd yn hyn mae’r ŵyl sy’n gwahodd bandiau ar draws Prydain i brifddinas Cymru wedi ei gynnal dros gyfnod o dridie – gan ddechrau ar nos Iau 20 Hydref, ac yn para tan nos Sul 23 Hydref.

Huw Stephens, y DJ a’r cyflwynydd, a’r trefnwr gigiau John Rostron, yw cyfarwydwyr yr ŵyl sy’n cynnwys dros 200 o fandiau.

Mae’r ŵyl wedi ennill ei phlwyf yng nghalendr gwyliau cerddorol Cymru a Phrydain dros y bum mlynedd ddiwethaf, gan roi llwyfan cynnar i fandiau mawr Prydeinig fel The Vaccines, law yn llaw â bandiau Cymreig a Chymraeg.

Rhai o’r bandiau Cymraeg fydd yn ymddangos yn yr ŵyl eleni yw Al Lewis, Colorama, Jen Jeniro, a Masters in France.

Dywedodd y trefnwyr eu bod nhw yn gobeithio y bydd cymysgedd o’r cyfarwydd a’r newydd I bobol ei fwynhau.

“Gobeithio bydd pobol yn gyfarwydd â rhai o’r bandiau, a gobeithio bydd digonedd yno fydd yn anghyfarwydd i bobol,” meddai John Rostron.

“Dyna’r syniad. Rydyn ni eisiau i bobol ddod i ddarganfod bandiau newydd.”

Mae tocyn pedwar diwrnod i’r ŵyl yn costi £49.50 ac mae tocynnau ar gyfer diwrnodau unigol hefyd ar gael i’w prynnu o wefan Sŵn (www.swnpresents.com) ar hyn o bryd, gyda chanolfannau eraill yn dechrau gwerthu’r tocynnau yn ystod yr wythnosau nesaf.